Plaid Cymru yn herio Llafur dros ei honiad camarweiniol fod nhw wedi cyrraedd eu targed o 100,000 prentisiaid
Mae arweinydd Plaid Cymru wedi herio Llafur dros newid y meini prawf o sut mae’n cyfri'r nifer o brentisiaid er mwyn honni ei fod wedi cwrdd â’i tharged newydd o 100,000.
Ar 10fed o Chwefror 2026, wnaeth Llafur honni eu bod nhw wedi cyrraedd eu targed o 100,000 prentisiaid yng Nghymru ers 2021, gan ddefnyddio ffigyrau llai trwyadl sy’n cynnwys y rheiny sy’n gadael y cwrs o fewn wyth wythnos. Y targed gwreiddiol yn ei rhaglen lywodraethu oedd 125,000.
Wnaeth Medr – y corff â throsolwg dros addysg ôl-16 – gyhoeddi ar 22ain o Ionawr fod y ffigwr o brentisiaid bellach yn 91,000 gan ddefnyddio’r mesur mwy trwyadl, y mesur roedd y llywodraeth ei hun arfer defnyddio.
Dywedodd Mr ap Iorwerth fod y llywodraeth wedi arfer gyda cholli targedau a newid y meini prawf er mwyn cuddio’i methiannau – gan gyfeirio at newidiadau i dargedau iechyd.
Meddai arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS:
“Mae tryloywder yng ngwleidyddiaeth yn bwysig – yn enwedig wrth i ni agosáu’r etholiad Senedd.
“Ond mae’r Llywodraeth Lafur Cymru hwn wedi newid sut maent yn mesur y nifer o brentisiaid er mwyn cwrdd â’i tharged o 100,000 – pan fod y ffigwr cywir tua 10,000 yn llai wrth eithrio'r rheiny wnaeth gadael eu cwrs o fewn wyth wythnos. Dyma’r gwrthwyneb i’r tryloywder mae pobl Cymru yn ei ddisgwyl o’i llywodraeth.
“Ond nid yw hyn yn beth newydd i’r llywodraeth yma. Wedi’r cwbl, mae record Llafur yn un o golli targedau ac yna newid y meini prawf er mwyn cuddio’i methiannau: ar restrau aros dros ddwy flynedd, amseroedd aros unedau brys, a nawr gyda phrentisiaid.
“Does dim syndod fod pobl yn colli hyder yn Llafur: nid yn unig am ei methiannau, ond ei phenderfyniad i beidio eu cymryd o ddifrif ac osgoi atebolrwydd.
“Mae’n bryd am arweinyddiaeth newydd i Gymru. Byddai Plaid Cymru yn sicrhau gwell tryloywder er mwyn arwain llywodraeth well, ac uchelgais go iawn i fynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu ein cymunedau.”