Arweinydd Plaid Cymru Adam Price yn addo dod â dwy wlad at ei gilydd mewn Uwchgynhadledd Geltaidd 

Bydd Arweinydd Plaid Cymru Adam Price AS heddiw (dydd Sul 29 Tachwedd) yn annerch 86ain Cynhadledd Genedlaethol Flynyddol yr SNP.

Yn ei araith, bydd Mr Price yn nodi’r cysylltiadau hanesyddol rhwng y ddwy blaid, yn enwedig gyda’u huchelgais dros annibyniaeth, ac yn addo y bydd “fy ngalwad ffôn swyddogol cyntaf fel Prif Weinidog cyntaf Cymru sydd o blaid annibyniaeth fis Mai nesaf fydd i’ch Prif Weinidog chi.”

Mae Mr Price yn awyddus i “ehangu” y berthynas rhwng y ddwy wlad, ac, fel Prif Weinidog Cymru, wedi addo “Uwchgynhadledd Geltaidd” yn haf 2021 lle gellir mapio nodau a phwrpas cyffredin “wrth i annibyniaeth a chydweithredu cydfuddiannol ddod yn rhan o’r normal newydd.”

Mae annibyniaeth i Gymru wedi cael llawer o amlygrwydd yn ddiweddar fel nodai Mr Price – a gyda’r Prif Weinidog Prydeinig Boris Johnson wedi dod yn “asiant recriwtio mwyaf erioed dros annibyniaeth”. Nodai Mr Price yn hytrach nag ail-adeiladu'n well mai “ail-adeiladu’n chwerw” y mae’r Prif Weinidog wedi’i wneud.

Yn wahanol i San Steffan, dywed Mr Price, “Mae gennym lasbrint i'n gwledydd nid yn unig i fod yn genhedloedd cyfartal ochr yn ochr â phob un arall, ond i fod yn genhedloedd o gydraddolion.” Wrth ystyried rhai o hanfodion 2020, dywed Mr Price ei fod yn gwybod “allwn ni ddim ‘Zoomio’ ein ffordd tuag at annibyniaeth heb adeiladu ‘Timau’ i wneud iddo weithio.”

Mae gwrthgyferbyniad hefyd yn cael ei wneud rhwng y dirywiad yn enw da Prif Weinidog y DU a’r “arweinyddiaeth ragorol” a ddangoswyd gan Brif Weinidog yr Alban, y mae ei chysondeb a’i hargyhoeddiad wedi’i weld a chenfigen ledled y byd.

Dywed Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price AS:

“Dros y misoedd nesaf bydd Plaid Cymru yn dadlau'r achos mai dim ond drwy newid Llywodraeth y bydd newid Cymru er gwell yn digwydd. Gadewch i neb fod mewn unrhyw amheuaeth y byddaf yn arwain tîm a phlaid sydd yn glir yn ei chyfeiriad, yn unedig yn ei nod, wedi ymrwymo i gynnal ac ennill refferendwm annibyniaeth cyn gynted ag y gallwn.

“Yr achos cyffredin hwn sy’n sylfaen i’r cwlwm rhwng yr SNP a Phlaid Cymru, a’m breuddwyd i yw gweld y ddwy wlad hyn yn dod at ei gilydd i gyd o dan un faner, mewn Uwchgynhadledd Geltaidd i fapio ein nodau a’n diben cyffredin wrth i annibyniaeth a chydweithrediad cydfuddiannol ddod yn rhan o’r normal newydd. Dyna pam mai Nicola Sturgeon fydd fy ngalw ffôn swyddogol cyntaf fel Prif Weinidog Cymru sydd o blaid annibyniaeth fis Mai nesaf.

“Mae’r pandemig wedi amlygu gormodedd gwaethaf rheolaeth San Steffan: Contractau PPE amheus, cyfundrefn brofi drychinebus, a ‘chumocracy’ Torïaidd sy'n tyfu bob dydd. Yng Nghymru, fe wnaethant ddwyn ein profion, yn yr Alban hefyd, gwrthodasant ymestyn ffyrlo, a nawr maent yn ymosod ar ddatganoli ei hun.

“Gwobr y Canghellor am aberth a brwydr gweithwyr y sector cyhoeddus yw'r bilsen wenwynig o rewi cyflogau cyhoeddus. Ond mae gennym ni lasbrint i'n gwledydd nid yn unig i fod yn genhedloedd cyfartal ochr yn ochr â phob un arall, ond gwledydd o gydraddolion, teg a rhydd, lle mae rhyddid yn allweddol i ffyniant pawb.”