Wrth nodi Diwrnod y Cadoediad, mae arweinydd Plaid Cymru wedi talu teyrnged i'r bywydau a gollwyd yn sgil rhyfel a gwrthdaro ac wedi galw am ymrwymiad o'r newydd i greu 'byd mwy diogel, heddychlon'.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS:

“Ar Ddiwrnod y Cadoediad, cofiwn bawb a gollwyd i ryfel a gwrthdaro, a gweithiwn tuag at ddyfodol heddychlon i bawb.

"Rydyn yn cael ein hatgoffa o fregusrwydd heddwch, a gwacter y geiriau a bortreadodd y Rhyfel Byd Cyntaf fel rhyfel fyddai’n dod a diwedd i bob rhyfel.

"Yn Sudan, Wcráin, Gaza ac mewn mannau eraill – mae erchyllterau gormes a thrais yn dod â phoen a thrallod na fedrwn ei amgyffred, gyda miliynau o bobl yn gorfod ffoi o'u cartrefi.

"Heddiw, gadewch i ni gadw un gwerth mewn cof: tosturi.

"Wrth i ni gofio'r rhai sydd wedi ein gadael: milwyr a sifiliaid, dioddefwyr a goroeswyr, gadewch i ni anrhydeddu eu cof nid yn unig trwy dawelwch ar yr unfed awr ar ddeg o'r unfed diwrnod ar ddeg o'r unfed mis ar ddeg, ond trwy'r hyn rydyn ni'n dewis ei wneud nesaf. I sefyll yn gadarn dros heddwch ac atgyfnerthu ein hymrwymiad i greu byd mwy diogel, heddychlon, ble fo pob cyd-ddyn ym mhob cenedl yn gallu byw heb ofn."