Rhaid i San Steffan roi 'Bargen Newydd i Gymru' gyda'r grymoedd angenrheidiol i wella canlyniadau i bobl – dyna fydd neges y Prif Weinidog Rhun ap Iorwerth i Brif Weinidog y DU wrth iddo annerch Cynhadledd Flynyddol Plaid Cymru am y tro cyntaf ers buddugoliaeth etholiadol hanesyddol y blaid ym mis Mai.

Mae'r Prif Weinidog Rhun ap Iorwerth yn galw am 'Fargen Newydd i Gymru' gan San Steffan, gan ddweud y dylai "Cymru allu elwa o'r un offer cyfansoddiadol a chyllidol sydd eisoes ar gael i'r Alban."

Mewn llythyr at Brif Weinidog y DU, Andy Burnham, dywed y Prif Weinidog Rhun ap Iorwerth:

“Yn etholiad diweddar y Senedd rhoddodd bobl Cymru fandad clir o blaid newid cadarnhaol sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn i'w bywydau.

Mae'r mandad hwn yn cynnwys ymestyn datganoli i alluogi'r Senedd a Llywodraeth Cymru i gael y grymoedd angenrheidiol — pwerau, cyllid a hyblygrwydd ariannol — i yrru'r cynnydd mwyaf posibl mewn canlyniadau i bobl Cymru drwy integreiddio a gwella gwasanaethau cyhoeddus a thyfu'r economi.

Fel egwyddor sylfaenol i gefnogi'r diwygiadau hyn, dylai Cymru allu elwa o'r un grymoedd cyfansoddiadol a chyllidol sydd eisoes ar gael yn yr Alban.

Mae'n nodi ymhellach:

"Mae'r achos dros ddatganoli plismona a chyfiawnder yn gwbl glir. Mae'r gwahaniad presennol rhwng gwasanaethau cyhoeddus datganoledig a system gyfiawnder neilltuedig yn creu ‘ymyl garw’ (jagged edge) yn y setliad datganoli, gan ei gwneud hi'n anoddach dylunio a darparu gwasanaethau cydlynol, sy'n canolbwyntio ar ddinasyddion."

Mae'r Prif Weinidog hefyd yn nodi'r achos dros ddatganoli pwerau gan gynnwys dros Seilwaith Rheilffyrdd, Ystâd y Goron, Hyblygrwydd Ariannu, a Lles. 

Wrth annerch Cynhadledd Flynyddol Plaid Cymru yn Llandudno brynhawn Gwener, mae disgwyl i'r Prif Weinidog Rhun ap Iorwerth ddweud:

"Ers mynd i fyd gwleidyddiaeth, rwyf bob amser wedi addo rhoi llais cryf i Gymru.

Nid sgript a basiwyd o swyddfa chwip San Steffan na llinellau wedi’w paratoi gan arweinydd mewn senedd arall – ond llais ein hunain.

Ac ers dod yn Brif Weinidog, dyma'r llais rydw i wedi'i ddefnyddio ym mhob sgwrs gyda phob cynrychiolydd Llywodraeth y DU rydw i wedi'i gyfarfod.

Mae Llywodraeth y DU yn sôn am ail-wifrio'r wladwriaeth, ond gyda chyn lleied o'r cerrynt cyfansoddiadol hwnnw yn llifo o San Steffan, gall Cymru deimlo’n anghysbell.

Felly heddiw gallaf gadarnhau fy mod wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog gyda chais ffurfiol - Bargen Newydd i Gymru.

Bargen Newydd i wneud yn iawn am annhegwch hanesyddol ein setliad cyllidol a chyfansoddiadol ac i roi Cymru ar sail gyfartal â'r Alban fel lleiafswm.

Bargen Newydd - y cyntaf o'i math - lle mae Prif Weinidog Cymru yn gwahodd Llywodraeth y DU i drin Cymru nid fel rhanbarth o Loegr ond fel cenedl yn ei hun.

Bargen Newydd i sicrhau pwerau at bwrpas. Nid fel diben ynddynt eu hunain ond fel modd o dyfu ein heconomi a gwella canlyniadau i bawb.

Rwy'n parhau i obeithio y bydd y Prif Weinidog yn gwrando mewn ysbryd cyffredin bod yn rhaid i'r agenda o barch rhwng Llywodraeth Cymru a'r DU weithio'r ddwy ffordd."