Mae Arweinydd Plaid Cymru Adam Price wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddatgelu faint o CGP oedd ganddynt wrth gefn cyn argyfwng Coronafeirws wedi ymchwiliad gan Panorama y BBC ddatgelu fod llywodraeth San Steffan wedi methu â phrynu cyfarpar gwarchod hanfodol i ymdopi â phandemig.

Yn ôl yr ymchwiliad, gadawyd “eitemau hanfodol” gan gynnwys gynau, feisors, swabiau glanhau a bagiau cyrff allan o’r stoc wrth gefn pan gafodd ei sefydlu yn 2009 – gyda “miliynau” o fasgiau anadlu FFP3 hefyd “heb gael eu cyfrif”.

Dywedodd yr ymchwiliad hefyd fod Llywodraeth San Steffan wedi anwybyddu rhybuddion gan eu hymgynghorwyr eu hunain am ddiffyg cyfarpar.

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru Adam Price fod “esgeulustod” llywodraeth San Steffan wedi cael ei “ddatgelu” a beirniadodd hwy yn llym am “fethu’n llwyr” a pharatoi am bandemig.

Fodd bynnag, dywedodd Arweinydd Plaid Cymru y dylai Llywodraeth Cymru yn awr ddatgelu faint o CGP oedd ganddynt yn eu stoc o offer pandemig wrth gefn cyn argyfwng Coronafeirws ac a oeddent yn barod ai peidio.

Pwysodd Mr Price hefyd ar Lywodraeth Cymru i gadarnhau a oedd ganddynt ddigon o CGP i gwrdd â’r galw ac i “amddiffyn” staff iechyd a gofal.

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru y dylid rhoi blaenoriaeth i sicrhau fod gweithwyr y rheng flaen yn cael eu cadw’n ddiogel trwy allu cael y “cyfarpar gwarchod priodol” y mae arnynt ei angen. Dywedodd Mr Price y byddai peidio â gwneud hynny yn “droi cefn yn y ffordd waethaf ar ddyletswydd”.

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru Adam Price,

“Datgelwyd esgeulustod llywodraeth San Steffan i lygaid y byd. Maent wedi methu a pharatoi’n iawn ar gyfer pandemig anorfod ac y mae’r methiant hwn wedi peryglu bywydau gweithwyr iechyd a gofal rheng flaen.

“Cafodd Ysbyty Treforys yn Abertawe ei chynnwys yn ymchwiliad Panorama’r BBC fel un o’r ysbytai a ddioddefodd oherwydd y diffyg CGP. Yng ngoleuni’r datgeliadau hyn, rhaid i Lywodraeth Cymru ddweud yn syth faint o CGP oedd ganddynt wrth gefn yn eu stoc ar gyfer pandemig cyn yr argyfwng Coronafeirws. Oedden nhw’n barod o gwbl am y pandemig?

“Ac a oes ganddyn nhw ddigon o CGP nawr i gwrdd â’r galw ac i amddiffyn ein staff iechyd a gofal?

“Rhaid rhoi blaenoriaeth i sicrhau fod ein gweithwyr rheng flaen yn cael eu cadw’n ddiogel trwy allu cael digon o’r cyfarpar gwarchod cywir y mae arnynt ei angen. Byddai peidio â gwneud hynny yn troi cefn yn y ffordd waethaf ar eu dyletswydd.