Cyfyngiadau Tafod Glas yng Nghymru a Lloegr yn ‘rhwystro masnach ar draws ffiniau’ - Plaid Cymru

Yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog heddiw (dydd Mercher 18 Mehefin) anogodd Llefarydd Materion Gwledig Plaid Cymru, Ann Davies AS, Lywodraeth y DU i ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru ar gynllun i dalu iawndal i fusnesau ffermio am golledion o ganlyniad i’r cyfyngiadau yn sgil clefyd y tafod glas.

Mae clefyd y tafod glas yn glefyd sy'n effeithio'n bennaf ar ddefaid, gwartheg a geifr.

Wythnos diwethaf, dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'n cyflwyno cyfyngiadau ar symud da byw o 20 Mehefin, 2025 ac y bydd angen trwydded benodol a phrofion ymlaen llaw ar unrhyw anifeiliaid sy'n agored i ddal y clefyd ac sy'n symud o ardal sydd eisoes o dan gyfyngiadau i fyw yng Nghymru.

Mae ardal gyfyngedig (RZ) yn Lloegr - sy'n cyfyngu ar symud anifeiliaid - wedi parhau i ehangu dros y misoedd diwethaf wrth i'r clefyd ledaenu.

O 1 Gorffennaf ymlaen, mae Llywodraeth y DU wedi penderfynu dynodi Lloegr gyfan yn Ardal Cyfyngedig (RZ), sy'n golygu, yn ymarferol bod rheoliadau symud yn llacio wrth i'r ffocws symud i annog brechu yn erbyn y clefyd sy'n lleddfu'r symptomau.

Pwysleisiodd AS Caerfyrddin fod ffermwyr Cymru wedi dioddef “ergyd ar ôl ergyd” ac yn awr mewn perygl o gael eu heffeithio ymhellach gan gyfyngiadau ar fasnachu ar draws ffiniau o ganlyniad i achosion o’r clefyd tafod glas.

Esboniodd Ms Davies fod marchnadoedd da byw allweddol a dros 550 o ffermydd ar y ffin yn dibynnu ar fasnachu dros yr haf.

Mae Sioe Frenhinol Cymru eisoes wedi gwahardd da byw o Loegr rhag mynychu'r digwyddiad eleni yn sgil lledaeniad y feirws. Mae Ann Davies AS wedi rhybuddio y gallai amharu ar gyfleoedd 'unwaith y flwyddyn' fel hyn fod yn “ddinistriol” a galwodd am sefydlu cynllun iawndal i leihau'r effeithiau ar fusnesau ffermio.

 

Wrth siarad yn ystod cwestiynau’r Prif Weinidog, dywedodd Ann Davies AS:

“Mae ffermwyr Cymru wedi dioddef ergyd ar ôl ergyd – o gytundebau masnach y Torïaid i drethi Llafur, ac yn awr ar ben y cyfan, bydd cyfyngiadau yn sgil clefyd y tafod glas sy’n effeithio ar Gymru a Lloegr yn rhwystro masnach ar draws ffiniau.

“Mae marchnadoedd da byw allweddol a dros 550 o ffermydd ar y ffin yn dibynnu ar fasnachu dros yr haf. Mae cyfleoedd 'unwaith y flwyddyn' fel Sioe Frenhinol Cymru yn hanfodol, a gallai aflonyddu o'r fath fod yn ddinistriol.

“A wnaiff y Dirprwy Brif Weinidog ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru ar gynllun i wneud iawn am golledion?”

 

Fe wnaeth Angela Rayner AS, y Dirprwy Brif Weinidog, a gamodd i mewn yn lle y Prif Weinidog heddiw, osgoi'r cwestiwn, gan ymosod ar Blaid Cymru yn lle am bleidleisio yn erbyn cyllideb Llywodraeth Cymru.

 

Wrth ofyn i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig (Llywodraeth Cymru), Huw Irranca-Davies AS ddoe yn y Senedd, dywedodd cyd-aelod Plaid Cymru Ms Davies, Llyr Gruffudd AS:

“Rydych chi wedi egluro mai rhan o’r rhesymeg hon yw er mwyn 'prynu amser' ond mae’n rhaid dweud: ble ydych chi wedi bod? Rydym wedi gwybod ers misoedd a misoedd, os nad blynyddoedd, fod clefyd y tafod glas ar ei ffordd.”

“Rwy’n ofni’n fawr y bydd eich penderfyniad polisi yr wythnos hon yn dod â hyd yn oed mwy o bryder, hyd yn oed mwy o aflonyddwch a hyd yn oed mwy o boen yn ei sgil.”

“Mae’n mynd i amharu ar yr ecosystem amaethyddol gyfan a gallai hynny ynddo’i hun fod yn fwy niweidiol na delio â chlefyd y tafod glas.”

“Ydych chi wedi cyfrifo'r amcan gost i’r diwydiant o’r cynnig rydych chi’n ei gyflwyno, ac os ydych chi, pa gefnogaeth sy’n cael ei hystyried i wrthbwyso rhywfaint o’r baich hwnnw?”