Peilot Llafur yn anheg ar bobl iau
Mae llefarydd Plaid Cymru dros drafnidiaeth, Peredur Owen Griffiths wedi beirniadu peilot 'annheg' Llywodraeth Llafur sy'n golygu fod plant 11-15 oed yn talu mwy am drafnidiaeth gyhoeddus wrth gymharu â pobl rhwng 16-21 mlwydd oed.
Bydd y cynllun peilot sydd yn cyflwyno tocynnau bws wedi'u capio ar £1 i bobl ifanc 16-21 oed, cynnig a groesawir gan Blaid Cymru, yn golygu bod plant 11-15 oed yn cael eu trin yn annheg, gan dalu mwy nag pobl ifanc 16-21 oed.
Mewn ardaloedd fel Caerdydd (£1.70), Casnewydd (£1.70), ac Abertawe (£1.10-£1.20), bydd pobl ifanc 11-15 oed yn talu mwy na'r prisiau newydd o dan y cynllun peilot newydd.
Mae cyfres o gwestiynau ysgrifenedig gan Mr Owen Griffiths wedi datgelu na chafodd effaith y peilot ar blant 5-15 oed ei hystyried cyn y cyhoeddiad polisi, gan fod trafodaethau yn digwydd 'ar hyn o bryd' gyda chwmnïau bysiau. Datgelwyd hefyd nad oes gan Lywodraeth Lafur Cymru unrhyw ddata ffurfiol ar faint o deithiau a wnaed gan bobl ifanc 11-15 oed yn 2024.
Mae Peredur Owen Griffiths AS wedi beirniadu'r broses o weithredu'r peilot, gan gyhuddo Llywodraeth Cymru o 'botched job', er mwyn sicrhau cefnogaeth i'w Cyllideb sydd heb 'unrhyw uchelgais'.
Roedd y cynllun peilot dan sylw yn rhan o drafodaethau'r Gyllideb rhwng Llywodraeth Lafur Cymru a'r unig AS o’r Democratiaid Rhyddfrydol, Jane Dodds.
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros drafnidiaeth, Peredur Owen Griffiths AS:
"Mae Plaid Cymru yn cytuno'n gryf â'r egwyddor y tu ôl i gynllun peilot y Llywodraeth ar gyfer capiau ar docynnau bysiau, ond mae'r cynigion a gyflwynwyd yn dangos yr holl arwyddion o 'botched job', a gynlluniwyd ar frys i basio Cyllideb y Llywodraeth Lafur sydd heb unrhyw uchelgais, heb ystyried yr effaith ar grwpiau eraill.
"Nid yn unig yw'r peilot hwn yn gwneud y system brisio yn annheg i bobl iau, mae'n gic yn y dannedd i ddysgwyr sydd wedi brwydro ers amser maith gydag aneffeithlonrwydd y mesur teithio i ddysgwyr ers blynyddoedd. O dan y system newydd, bydd dysgwyr sy'n teithio i'r ysgol dan anfantais i gymharu â'r rhai 16-21 oed.
"Dywedodd adolygiad gan Lywodraeth Cymru o'r mesur teithio i ddysgwyr yn 2022 fod gwneud dim ddim yn opsiwn, ond rydym i dal i fod yn yr un sefyllfa. Er gwaethaf addewidion i weithredu, ni fu unrhyw newid ystyrlon i drothwyon milltiroedd, dim adolygiad deddfwriaethol llawn, a hyd yn oed mân ddiweddariadau i ganllawiau heb gyrraedd ymgynghoriad.
"Mae proses weithredu'r cynllun peilot hwn yn dangos nid yn unig y diffyg ystyriaeth i ddeddfwriaeth gan y Llywodraeth Lafur hon, ond mae hefyd yn dangos diystyriaeth y Llywodraeth tuag at grŵp oedran sy'n dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus i gael mynediad at addysg, gan rwystro eu gallu i lwyddo."