Ni all Cyllideb a “ailysgrifennwyd mewn panig” weithio er lles Cymru, meddai llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, Ben Lake AS
Mae llefarydd Plaid Cymru ar ran y Trysorlys, Ben Lake AS, wedi rhybuddio na all Cyllideb y DU a “ailysgrifennwyd mewn panig” yn sgil tro pedol y Canghellor, Rachel Reeves, ar dreth incwm ddarparu’r sefydlogrwydd na’r tegwch sydd eu hangen ar Gymru.
Dywedodd Mr Lake fod adroddiadau bod y Canghellor, Rachel Reeves, wedi ailysgrifennu cynigion ei Chyllideb ar y funud olaf – gan sbarduno gwerthiant sydyn mewn bondiau llywodraeth y DU – yn dangos bod rhywbeth sylfaenol “wedi torri yng nghanol y Llywodraeth Lafur hon”.
Mae Plaid Cymru yn ailadrodd ei galwad am setliad cyllidol newydd i Gymru, gan gynnwys:
- Datganoli Ystâd y Goron, gan ganiatáu i Gymru gadw refeniw o’i hadnoddau naturiol,
- Cyllid teg i Gymru, gan gynnwys taliadau canlyniadol HS2 sydd wedi'u gwrthod ers amser maith,
- System dreth sy’n trin incwm o gyfoeth yn deg, yn hytrach na rhoi’r baich ar weithwyr
Dywedodd yr AS Ben Lake:
“Ni all Cyllideb a ailysgrifennwyd mewn panig weithio er lles Cymru. Pan fydd y Canghellor yn croesi allan ei chynigion lai na phythefnos cyn Diwrnod y Gyllideb – gan sbarduno gwerthiant mewn bondiau llywodraeth – mae’n dangos bod rhywbeth sylfaenol wedi torri yng nghanol y Llywodraeth Lafur hon.
“Mae angen sefydlogrwydd ar Gymru a’r gallu i gynllunio ar gyfer y tymor hir. Yn lle hynny, rydym yn cael Cyllideb wedi’i hailysgrifennu ar frys i rwystro rhagor o ymladd mewnol Llafur – nid i ddiwallu anghenion cymunedau Cymru.
“Nid dyma’r ffordd o redeg economi, yn enwedig pan fo gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yn dibynnu ar gyllid sefydlog. Pan fydd ansicrwydd San Steffan yn gwthio costau benthyca i fyny, ein cymunedau ni sy’n talu’r pris.
“Plaid Cymru yw’r unig blaid sy’n ymladd dros degwch i Gymru o’r Gyllideb hon: cyllid teg, gan gynnwys symiau canlyniadol HS2 sydd wedi'u hatal ers amser maith; system dreth sy’n trin incwm o gyfoeth yn deg; a rheolaeth dros Ystâd y Goron fel bod elw a gynhyrchir o’n cyfoeth naturiol yn aros yng Nghymru.
“Ni fydd cyllidebau a ddrafftiwyd mewn panig byth yn gweithio er lles Cymru. Mae’n bryd am gynllun sefydlog, uchelgeisiol wedi’i lunio er mwyn blaenoriaethau Cymru, nid troadau pedol munud olaf yn Llundain.”