Plaid Cymru i gomisiynu adolygiad annibynnol i leihau biwrocratiaeth ffermio yn 100 diwrnod cyntaf y Llywodraeth
Heddiw, mae Plaid Cymru wedi ymrwymo i gomisiynu adolygiad i'r baich biwrocrataidd ar y sector ffermio o fewn y 100 diwrnod cyntaf o Lywodraeth Plaid Cymru.
Galwodd llefarydd Plaid Cymru ar Faterion Gwledig, Llyr Gruffydd am yr adolygiad wrth siarad cyn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru.
Yr asesiad mawr diwethaf, a gyhoeddwyd yn 2012, roedd yr adolygiad ‘hwyluso’r drefn’, a osododd 76 o argymhellion ar sut i leihau biwrocratiaeth ar y sector. Ers hynny, mae Brexit, cytundebau masnach newydd, mwy o reoliadau TB, rheoliadau ansawdd dŵr (NVZs), cyfyngiadau symud y tafod glas, a'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) arfaethedig, yn golygu ei bod yn amserol ailedrych ar y faich cronnus mae’r rheoleiddio cynyddol yn cael ar y sector, yn ôl Llyr Gruffydd AS.
Esboniodd llefarydd Plaid Cymru dros Faterion Gwledig disgwyliadau Plaid Cymru ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy sydd ar ddod.
Daw hyn wrth i Ysgrifennydd y Cabinet dros Faterion Gwledig, Huw Irranca-Davies, gyhoeddi'r datblygiadau diweddaraf ar ddydd Mawrth 15 Gorffennaf.
Dywed Mr Gruffydd fod yn rhaid i'r SFS fod yn 'ymarferol i ffermwyr' neu beryglu nad yw'r cynllun yn cyflawni ar gyfer 'ffermio nag yr amgylchedd'. Mae hyn yn cynnwys cynllun cyllido amlflynyddol, cynllun mae Plaid Cymru wedi ymrwymo i'w wneud pe baent yn ffurfio Llywodraeth nesaf Cymru yn 2026, gan sichrau cyllid cyfatebol â Chyllideb y Llywodraeth ar yr SFS ‘fel isafswm’.
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros Materion Gwledig, Llyr Gruffydd AS:
"Nid yw'r baich cynyddol o fiwrocratiaeth ar fusnesau ffermio wedi cael ei adolygu ers dros ddegawd. Mae llawer wedi newid ers hynny, wrth i fwy o faich fod wedi’i gyflwyno gyda bTB, rheoliadau NVZ, cynigion newydd ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a chyfyngiadau symud oherwydd y tafod glas i enwi ond ychydig. Er bod llawer o ffocws wedi bod ar gynlluniau a rheoliadau unigol, nid yw'r effaith gronnus wedi'i hystyried yn briodol.
“Dyna pam, yn ystod 100 diwrnod cyntaf Llywodraeth Plaid Cymru, byddwn yn comisiynu adolygiad annibynnol ar y baich biwrocrataidd cronnus ar y sector amaethyddiaeth yng Nghymru.
Ynglŷn â'r cynigion Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd hir-ddisgwyliedig, dywedodd Mr Gruffydd:
"Rhaid i unrhyw gynllun sy'n cael ei gyflwyno gan Lywodraeth Cymru fod yn ymarferol i ffermwyr - fel arall ni fydd yn cyflawni ar gyfer ffermio na'r amgylchedd. Mae Plaid Cymru wedi galw o'r blaen am ostyngiad yn nifer y Camau Gweithredu Cyffredinol o fewn y cynllun, mwy o hyblygrwydd ar blannu coed gan gynnwys dileu'r targed o 10%, a mwy o bwyslais ar werth cymdeithasol ffermio fel lles cyhoeddus.
"Rydym wedi sicrhau cyfnod pontio hirach rhwng y BPS a'r SFS a byddem yn annog y Llywodraeth i osgoi unrhyw fath o ancirwydd cyllidol wrth i ni symud o un system i'r llall.
"Rydym hefyd yn gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymrwymo i gyllid hirdymor ar gyfer y cynllun. Ni all y sector weithredu ar gylch cyllido 12 mis. Mae angen sicrwydd tymor hir er mwyn cynllunio, buddsoddi a thyfu. Mae sefydlogrwydd cyllidol yn hanfodol i gefnogi cynhyrchiant ac effeithlonrwydd ar gyfer cynhyrchu bwyd ac ar gyfer natur.
"Gallaf gyhoeddi fod Plaid Cymru yn ymrwymo i gyllid aml-flwyddyn os ydym yn ffurfio'r Llywodraeth nesaf. Byddwn hefyd yn darparu cyllideb cyfatebol i’r hyn gyhoeddwyd gan y Llywodraeth bresennol ar yr SFS fel lleiafswm.
"Rwyf hefyd yn awyddus i weld asesiad effaith economaidd sydd wedi'i ddiweddaru ar y cynllun fel rhan o gyfres ehangach o wybodaeth. Maen addas fod pawb yn deallt beth fydd effaith y newidiadau hyn ar yr economi wledig ehangach.
"Mae Plaid Cymru yn deall ac yn cefnogi ein cymunedau ffermio, a dyna pam y byddai Llywodraeth Plaid Cymru yn 2026 yn gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu'r sector i ffynnu a thyfu."