Mae arweinydd Plaid Cymru wedi dweud fod nodyn personol gan Brif Weinidog y Deyrnas Unedig yn amlygu dirmyg Llafur tuag at ddatganoli.

Yn ystod Cwestiynau i’r Prif Weinidog yn y Senedd heddiw (Dydd Mawrth 10fed Mawrth, 2026), wnaeth arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth AS cwestiynu Prif Weinidog Llafur Cymru am nodyn gan Brif Weinidog y Deyrnas Unedig (DU) mae Plaid Cymru wedi cael gafael arno.

Gorchmynnodd Prif Weinidog y DU i Aelodau o’i gabinet i drechu llywodraethau datganoledig, a disgrifiwyd gan arweinydd Plaid Cymru fel “ymosodiad uniongyrchol ar safbwyntiau democrataidd Llywodraethau datganoledig.”

Dywedodd Prif Weinidog y DU “dylen fod yn hyderus yn ein gallu i gyflawni’n uniongyrchol yn y gwledydd hynny, gan gynnwys trwy wariant uniongyrchol, hyd yn oed pan fod llywodraethau datganoledig yn gallu gwrthwynebu hyn.”

Megis ond wythnos yn gynt dywedodd Sir Keir Starmer ei fod yn “credu’n fawr mewn datganoli” yn dilyn beirniadaeth gan nifer o feincwyr cefn Llafur yn y Senedd ar ôl i Lywodraeth y DU benderfynu neilltuo cynllun ‘Balchder Bro’, er bod cyllido llywodraethau lleol wedi’i ddatganoli.

Wnaeth arweinydd Plaid Cymru, Mr ap Iorwerth, hefyd beirniadu Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens, am fod yr un mor euog, a dywedodd fod Prif Weinidog Cymru wedi methu i sefyll fyny dros Gymru. 

Wrth siarad yn y Siambr, dywedodd arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth AS,

“Mae gen i yma nodyn personol gan y Prif Weinidog at ei gydweithwyr Cabinet, wedi’i arwyddo gan y Prif Weinidog, lle mae’n annog gweithio yn erbyn llywodraethau datganoledig os yw hynny’n hybu buddiannau ei lywodraeth. Mae’n dweud:

“’…mae ffordd ormodol o barchus neu ymagwedd laissez-faire i ymgysylltu â llywodraethau datganoledig bron yn sicr yn creu heriau gwleidyddol neu’n colli cyfleoedd cadarnhaol. Dylen fod yn hyderus yn ein gallu i ddarparu’n uniongyrchol yn y gwledydd hynny, gan gynnwys trwy wariant uniongyrchol, hyd yn oed pan fod llywodraethau datganoledig yn gallu gwrthwynebu hyn.’

“Dyma hyn mewn du a gwyn. Fersiwn Keir Starmer ei hun o undebaeth gyhyrog Boris Johnson.

“Nid yn unig yn ymwneud a datganoli yn amhriodol, ond yn ymosod yn uniongyrchol ar farn ddemocrataidd Llywodraethau datganoledig.

“Drwy aros yn deilwng iddo, mae Prif Weinidog Cymru yn alinio ei hun gydag ymdrechion sy’n tanseilio llywodraeth ei hun.

“Pam fod y blaid Lafur wedi troi yn erbyn datganoli a pam fod Prif Weinidog Cymru wedi caniatáu i Brif Weinidog y DU i ymdrin â’n Senedd, ei llywodraeth, a phobl Cymru gyda dirmyg?”

Parhaodd:

“Pan mae’n dod at sefyll i fyny dros Gymru, mae ei ‘Ffordd Goch Gymreig’ wedi gwneud dim mwy na ein harwain i’r ffordd anghywir.

“Gan nodi fod hwn yn llythyr pleidiol ar bapur llywodraeth, mae hefyd yn dangos tu hwnt i unrhyw amheuaeth bod teyrngarwch Prif Weinidog Llafur y DU i’w blaid a’i lywodraeth ei hun, hyd yn oed os mae ei weithredoedd yn cael eu hystyried yn annerbyniol gan lywodraeth a etholwyd yn ddemocrataidd yma yng Nghymru.

“Ac mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru’r un mor euog, gyda’r nodyn yn dweud fod y Swyddfa Cymru yn barod i helpu – felly mae gennych Ysgrifennydd Cymreig yn defnyddio ei lle wrth y bwrdd cabinet i osgoi Cymru.

“Anfonwyd y nodyn yn fuan iawn ar ôl i feincwyr cefn Llafur yma yn y Senedd ysgrifennu at Brif Weinidog y DU i nodi eu dicter yn ei ymagwedd at Gymru. Am ymateb sydd yn diystyru eu beirniadaeth ddilys.

“Mae Prif Weinidog Cymru wedi rhedeg allan o ffyrdd i ymddiheuro dros ac amddiffyn y Prif Weinidog.

“Mae Llafur bellach yn weithredol yn gweithio yn erbyn buddiannau Cymru er mwyn diogelu eu buddiannau nhw ei hun. Mae’n rhaid iddi gytuno â mi bod agwedd y Prif Weinidog gyn annerbyniol.”