Plaid Cymru’n dewis yr ymgyrchydd lleol Lindsay Whittle ar gyfer is-etholiad Caerffili
Mae Plaid Cymru wedi dewis yr ymgyrchydd lleol nodedig Lindsay Whittle fel ei ymgeisydd yn isetholiad y Senedd sydd yng Nghaerffili ar 23 Hydref.
Daeth Lindsay, a fagwyd yng Nghaerffili ac sy'n gynghorydd poblogaidd a hirhoedlog ym Mhenyrheol ac yn arweinydd grŵp y Blaid ar Gyngor Caerffili, yn ail agos i Lafur yn Etholiad Cyffredinol San Steffan y llynedd. Ers hynny, mae Plaid Cymru wedi gweld cynnydd mawr yn eu cefnogaeth yn yr arolygon barn cenedlaethol.
“Mae amgylchiadau'r isetholiad hwn, a gododd yn sgil marwolaeth Hefin David, wrth gwrs yn drist iawn ac rwy’n parhau i feddwl yn fawr am deulu ac anwyliaid Hefin” meddai Lindsay Whittle.
“Mae pobl Caerffili yn haeddu cynrychiolydd lleol angerddol yn y Senedd. Rwy'n benderfynol o gynnig agenda gadarnhaol, i sichrau fod yr ardal hon yn cael bargen deg.”
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth,
“Mae gan Lindsay Whittle hanes hir o sefyll dros ei gymuned, a byddai'n ased go iawn yn y Senedd.
“Mae pobl yn lleol yn teimlo eu bod wedi cael eu cymryd yn ganiataol a’u siomi droeon gan y Llywodraeth Lafur.
“Mae amseroedd aros yn parhau yn uchel. Mae ysgolion yn cael eu tanhariannu. Mae cynghorau yn ei chael hi’n anodd i ddelifro gwasanaethau rhengflaen.
“Ar ben yr argyfwng costau byw, rydym wedi gweld toriadau i'r Lwfans Tanwydd Gaeaf a chynnydd mewn Yswiriant Gwladol ar gyfer busnesau bach. Nid yw Cymru’n cael bargen deg ar gyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus.
“Wedi 26 mlynedd o Lafur, mae pobl yn gynyddol anhapus gyda’r ffordd mae Cymru’n cael ei rhedeg – o wasanaethau ar eu gliniau, cyfleon yn cael eu gwastraffu, a diffyg uchelgais, ac mae nhw’n chwilio am newid.
“Mae etholwyr yng Nghaerffili yn gwybod y gallant ymddiried ym Mhlaid Cymru i sefyll dros fuddiannau Gymru – bob tro.”