Cyfle i isetholiad Caerffili “ddechrau ailosod” gwleidyddiaeth yng Nghymru
Heddiw, bydd Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, yn mynd â neges gadarnhaol ei blaid o newid i Gaerffili lle cynhelir isetholiad ar gyfer y Senedd ar 23 Hydref.
Gan ymgyrchu gydag ymgyrchwyr Plaid Cymru a'r ymgeisydd lleol Lindsay Whittle - arweinydd grŵp cyngor profiadol iawn y blaid a chyn Aelod Cynulliad dros y rhanbarth - bydd Rhun ap Iorwerth yn portreadu'r isetholiad fel cyfle i "ddechrau ailosod" gwleidyddiaeth yng Nghymru gydag ymgyrch sy'n canolbwyntio ar lywodraeth a chyflawni er gwell.
Bydd Arweinydd Plaid Cymru yn cyhuddo'r Blaid Lafur o "gymryd cymunedau'r cymoedd yn ganiataol am rhy hir" ac yn honni nad yw Reform yn cynnig dim i wella bywydau pobl yng Nghymru.
Disgwylir i AS Rhun ap Iorwerth ddweud:
“Mae is-etholiad Caerffili yn gyfle i ddechrau ailosod gwleidyddiaeth yng Nghymru.
“Bydd buddugoliaeth Plaid Cymru i’n hymgeisydd lleol rhagorol Lindsay Whittle yn gam cyntaf tuag at y newid llywodraeth y mae Cymru ei angen mor daer – cael plaid yng Nghymru gyda chynllun ‘wedi’i wneud yng Nghymru’.
“Mae’r Blaid Lafur wedi cymryd cymunedau’r cymoedd yn ganiataol ers gormod o amser.
“Mae gwasanaethau cymunedol wedi cael eu difa, mae cyflogau’n ystyfnig o isel ac mae rhestrau aros y gwasanaeth iechyd yn dal yn rhy uchel.
“Yn y cyfamser, nid yw Reform UK yn cynnig dim byd ar gyfer gwella bywydau pobl Cymru a’u cymunedau.
“Mae pobl eisiau teimlo gobaith unwaith eto – dyna mae Plaid Cymru yn ei gynnig. Nid marweidd-dra Llafur na gwleidyddiaeth ffantasi Reform.
“Dim ond pleidlais dros Blaid Cymru ar 23 Hydref fydd yn gosod ein cenedl ar lwybr tuag at lywodraeth well sy’n cyflawni dros bobl Cymru ar ôl chwe blynedd ar hugain o fethiant Llafur.”