Plaid Cymru yn rhybuddio bod canlyniadau canser Cymru “ymhlith y gwaethaf yn Ewrop”

Bydd Plaid Cymru yn ymrwymo i gynllun adfer uchelgeisiol i fynd i’r afael â’r mewnlifiad o gleifion canser heb ddiagnosis a heb eu trin o ganlyniad i bandemig y Coronafeirws, meddai Gweinidog Cysgodol Iechyd.

Dywedodd Gweinidog Cysgodol Iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS y byddai cynllun adfer y blaid yn ffurfio strategaeth ganser ehangach fyddai’n blaenoriaethu diagnosis cynnar ac yn sicrhau gofal digonol i’r miloedd fydd angen triniaeth gymhleth ar ôl colli diagnosis cynnar.

Wrth siarad ar Ddiwrnod Canser y Byd, ychwanegodd Mr ap Iorwerth bydd perfformiad gwael Cymru o ran canlyniadau canser yn gwaethygu os na fydd camau'n cael eu cymryd.

Daeth ‘Cynllun Cyflawni Canser’ Llywodraeth Lafur Cymru i ben y llynedd, ac nid yw cynllun newydd wedi’i gyhoeddi eto.

Mae Cymorth Canser Macmillan wedi cyfrifo bod 3,500 o bobl wedi ‘colli’ diagnosis canser rhwng mis Mawrth a mis Tachwedd 2020. Bydd hyn yn golygu y bydd angen triniaethau fwy cymhleth ar fwy o bobl yn ddiweddarach.

Dywedodd Gweinidog Cysgodol Iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS,

“Mae effaith y pandemig ar driniaeth canser yn ddinistriol. Mae miloedd o bobl wedi methu diagnosis, a bydd llawer yn awr yn mynd i lwybrau triniaeth canser yn ystod camau llawer diweddarach o'u salwch.

“Byddai Plaid Cymru yn cyflwyno cynllun adfer pendant, uchelgeisiol – fel rhan o strategaeth canser ehangach – i flaenoriaethu diagnosis cynnar, cydnabod y miloedd sydd heb ddiagnosis ar hyn o bryd a sicrhau gofal digonol i'r cleifion hynny yn ystod camau diweddarach o ganser y bydd angen triniaethau mwy cymhleth arnynt.

“Byddem yn cwblhau'r gwaith o gyflwyno canolfannau diagnostig amlddisgyblaethol ledled Cymru, yn sicrhau bod gan bob claf canser yr hawl gyfreithiol i weithiwr allweddol i'w helpu drwy driniaeth a thu hwnt ac i ddefnyddio unedau sgrinio symudol i fynd â'r gwasanaeth i'r cymunedau anoddaf eu cyrraedd.

“Nid dyma'r amser i fod heb strategaeth canser. Mae gan Gymru ymhlith y canlyniadau canser gwaethaf yn Ewrop, a bydd hyn ond yn gwaethygu os na fydd camau'n cael eu cymryd.

“Yn y cyfamser, dylai unrhyw un sydd ag unrhyw bryder, unrhyw symptom, wneud apwyntiad gyda'ch meddyg teulu.”