Dangosir data Llywodraeth y DU fod Adolygiad Gwariant y Llywodraeth yn crebachu gwerth cyllideb cyfalaf Llywodraeth Cymru mewn termau real yn y cyfnod gwariant hwn.

Mae Plaid Cymru wedi beirniadu Llywodraeth Lafur y DU am fuddsoddi llai o arian yng Nghymru wrth gymharu â chenhedloedd eraill y DU.

Mae hyn yn dod ar ôl i’r Adolygiad Gwariant ddangos fod rhagolygon twf blynyddol cyfartalog cyllideb cyfalaf Llywodraeth Cymru rhwng 2025-26 a 2029-30 yn swm o -0.9%, tra bod y ffigyrau ar gyfer Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Gogledd Iwerddon yn dangos +0.3% a +0.7.

Mae AS Plaid Cymru, Heledd Fychan, hefyd wedi beirniadu Llywodraeth Lafur Cymru am ddathlu’r adolygiad gwariant ‘drychinebus’ sydd ddim yn rhoi’r cyllid sy’n ddyledus i Gymru.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros gyllid, Heledd Fychan AS:

“Gwelir cynnydd yn yr Alban, gwelir cynnydd yng Ngogledd Iwerddon, ond mae Cymru yn colli allan. Mae’r crebachu termau real yma o 0.9% yng nghyllideb cyfalaf Cymru yn fwy o dystiolaeth fod y Llywodraeth Lafur hon a’u Hadolygiad Gwariant yn newyddion drwg i Gymru.

“Mae gallu Cymru i fuddsoddi yn ein hisadeiledd ac ein cymunedau yn cael ei atal gan y Llywodraeth Lafur hon yn San Steffan. Hyd yn oed yn waeth, mae’r Llywodraeth Lafur yng Nghymru yn wedi dewis dathlu'r adolygiad gwariant trychinebus.

“Swm annigonol o arian i ein rheilffyrdd a swm annigonol o arian i glirio tomenni glo gan Blaid Lafur sydd yn benderfynol o danariannu Cymru.

“Mae’r adolygiad gwariant wedi amlinellu'r ffaith fod Llafur byth am roi del da i Gymru. Maen amser am lywodraeth bydd yn ymladd yn gyson dros degwch i Gymru, Llywodraeth Plaid Cymru.”