‘Byddai llywodraeth Plaid Cymru yn gwneud mynd i’r afael â thlodi plant yn flaenoriaeth’ – arweinydd Plaid

Yn ystod Cwestiynau i’r Prif Weinidog heddiw (dydd Mawrth 11 Tachwedd 2025), wnaeth Eluned Morgan methu ar dair adeg wahanol i adfer targedau i fynd i’r afael â thlodi plant – yng nghyd-destun Llywodraeth Lafur y DU yn awgrymu byddant yn dileu’r cap dau blentyn.

Yn 2016, wnaeth Llywodraeth Lafur Cymru cael gwared â’u targed i ddileu tlodi plant erbyn 2020, gan roi’r bai ar weithredoedd Llywodraeth y DU ar ddiwygio’r system lles.

Wrth ymateb i’r cyfnewid, dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS:

"Honnodd y Prif Weinidog Llafur ei hi bod wedi mynd i mewn i wleidyddiaeth i ddileu tlodi plant, ond pan ofynnais iddi dair gwaith i adfer targedau tlodi plant, wnaeth hi wrthod gwneud.

“Erbyn 2029, disgwylir y bydd treian o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi – yr uchaf yn y DU – ac mae mesurau fel y Taliad Plentyn a gynigir gan Blaid Cymru, sydd wedi’u profi yn yr Alban i fod yn fesur allweddol i ddod lawr â chyfraddau tlodi plant, wedi cael ei wrthod gan Lafur.

"Gyda'r Canghellor yn nodi ei bwriad i godi'r cap dau blentyn yn llawn, nid oes unrhyw reswm rhesymegol pam na all y Prif Weinidog osod targedau newydd, beiddgar ac uchelgeisiol i fynd i'r afael â thlodi plant.

“Tra bod Llafur yn dweud na i dargedau a na i daliad plant - bydd Llywodraeth Plaid Cymru yn dangos ymdeimlad newydd o frys, gan sicrhau bod rhoi dechrau teg i bob plentyn mewn bywyd yn flaenoriaeth."