Llafur yn pleidleisio yn erbyn polisïau i ddileu tlodi plant yng Nghymru
Mae Plaid Cymru wedi barnu Llafur am gymryd fwy o ddiddordeb yn rheoli tlodi na mynd i’r afael â’r broblem
Mae Llafur wedi penderfynu rheoli tlodi plant yn lle cymryd y gweithredoedd angenrheidiol i fynd i’r afael a’r broblem, dywedodd Sioned Williams AS ar ôl i Lafur pleidleisio yn erbyn galwadau Plaid Cymru i weithredu taliad plentyn a tharged i ddileu tlodi plant yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Llafur Cymru ac aelodau meinciau cefn Llafur wedi pleidleisio yn erbyn y mesurau yma, er bod 32% o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi – rhagwelir y bydd yn cyrraedd ei chyfradd uchaf mewn 30 mlynedd ar 34% erbyn 2029, yn ôl dadansoddiad gan Sefydliad Joseph Rowntree.
Yn 2016, fe wnaeth Llywodraeth Lafur Cymru cael gwared ar ei tharged i ddileu tlodi plant erbyn 2020 ac maent wedi methu go iawn heddiw i alw ar eu cydweithwyr yn Llywodraeth Lafur y DU i godi’r cap dau blentyn creulon yn llawn, sy'n effeithio ar 11% o blant yng Nghymru.
Yn y cyfamser, yr Alban yw'r unig genedl yn y DU lle mae disgwyl i dlodi plant ostwng ar ôl i Lywodraeth yr Alban gymryd camau beiddgar trwy Daliad Plentyn ac wedi ymrwymo i ddileu'r cap dau blentyn o fis Mawrth 2026.
Byddai llywodraeth Plaid Cymru yn cymryd ysbrydoliaeth o'r Alban i "gefnogi teuluoedd" gyda thaliad plant uniongyrchol "trawsnewidiol" i fynd i'r afael â lefelau cynyddol o dlodi plant yng Nghymru.
Dywedodd Ms Williams fod penderfyniad Llywodraeth Lafur Cymru i bleidleisio yn erbyn galwadau Plaid Cymru yn "siomedig", ac yn profi eu bod yn methu â sefyll i fyny dros y rhai mwyaf bregus yn ein cymunedau.
Yn siarad wedi’r bleidlais, mae llefarydd Plaid Cymru dros gyfiawnder cymdeithasol, Sioned Williams AS:
“Mae tlodi plant yn ddewis gwleidyddol. Trwy bleidleisio yn erbyn galwadau Plaid Cymru sydd wedi’i brofi’n fwyaf effeithiol i fynd i’r afael â thlodi plant – mae Llywodraeth Lafur Cymru unwaith eto wedi penderfynu rheoli tlodi plant yn lle gweithredu.
“Nid dyma lywodraeth sydd yn sefyll fyny dros y mwyaf bregus yn ein cymunedau, nac yn cyflawni dros unrhyw hen uchelgais i dynnu plant allan o dlodi. Mae Llafur wedi gwneud esgusodion am eu diffyg gweithredu yn lle dod o hyd i ffordd i gyflawni – tra bod Llywodraeth yr Alban wedi gwneud eu gwaith a gweithredu i dynnu plant allan o dlodi.
“Roedd y ddadl yma yn gyfle i Lafur i dderbyn ein galwadau am daliad plentyn ac am dargedau statudol mesuradwy, er lles y nifer cynyddol o blant sydd yn mynd heb yr hanfodion. Mae ei diffyg uchelgais i Gymru a’n pobl ifanc yn siomedig.
“Yn y cyfamser, mae Plaid Cymru eisoes wedi cyhoeddi os rydym mewn llywodraeth, byddwn yn cymryd camau beiddgar i roi’r dechrau gorau posib mewn bywyd i blant a chefnogi teuluoedd trwy daliad plentyn.
“Does dim syndod bod mwy o bobl yn troi at Blaid Cymru – plaid sydd â chynlluniau credadwy a fydd yn drawsnewidiol i’n cymunedau. Mae angen newid positif ar Gymru, a dim ond Plaid Cymru gall cyflawni.”