‘Rhaid i San Steffan ariannu diogelwch tomenni glo yn llawn i atal Aberfan arall’ – Plaid Cymru
Ann Davies AS i arwain dadl yn San Steffan ar ddiogelwch tomenni glo
Heddiw (Dydd Mercher 22 Hydref) bydd AS Caerfyrddin, Ann Davies, yn arwain dadl yn San Steffan ar ddiogelwch tomenni glo a’r gwaharddiad o drwyddedau echdynnu glo newydd.
Mae dros 50% o holl domenni glo y DU yng Nghymru, er mai dim ond 8.5% o gyfanswm tir y DU yw Cymru. O’r 2,590 o domenni glo yng Nghymru, mae nifer ohonynt yn cael eu hystyried i fod yn beryglus i’r cyhoedd ac mae risg y gallai nifer fawr ddymchwel oherwydd tywydd eithafol sy’n digwydd yn amlach.
Dywedodd Llywodraeth Cymru yn flaenorol bod angen £600m i sicrhau bod tomenni glo yng nghymoedd de Cymru yn ddiogel. Fodd bynnag, ychydig dros draean o’r swm hwnnw sydd wedi’i ddyrannu gan Lywodraeth y DU a Chymru i wneud hynny.
Cyflwynodd Ann Davies AS gwestiwn ysgrifenedig i Lywodraeth y DU ym mis Mehefin 2025 ynghylch yr arian a ddyrannwyd, ac yn eu hymateb, dywedon nhw nad oedd Llywodraeth Lafur Cymru wedi gofyn am y swm llawn o £600 miliwn.
Mae Delyth Jewell AS wedi arwain dadleuon ar y mater hwn yn y Senedd a gyfrannodd at basio Deddf Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) 2025. Bydd hyn yn sefydlu Awdurdod Tomenni Nas Defnyddir Cymru i sicrhau bod cymunedau sy'n byw yng nghysgod tomenni glo yn cael eu diogelu, gan ei wneud yn ofynnol i dirfeddianwyr gynnal tomenni glo ar eu tir i'w gwneud yn sefydlog.
Fodd bynnag, mae Plaid Cymru yn dadlau bod tomenni glo yn fater sy’n deillio o ddyddiau cyn datganoli, ac felly San Steffan ddylai dalu'r gost lawn. Bydd Ms Davies yn galw ar Lywodraeth y DU i ymrwymo i ariannu gwaith adfer yn llawn i wneud tomenni glo yn ddiogel yng Nghymru.
Yn ei haraith yn ystod y ddadl, disgwylir i Ann Davies AS ddweud:
“Mae’r ddadl heddiw yn digwydd un diwrnod ar ôl 59fed mlwyddiant trychineb Aberfan - cwymp tomen rwbel pwll glo ym 1966 a laddodd 28 o oedolion a 116 o blant, ac a chwalodd Ysgol Gynradd Pantglas.
“Yn sgil y drychineb hwn, daeth Ddeddf Mwyngloddiau a Chwareli (Tomenni) i rym gan wella sefydlogrwydd a diogelwch tomenni glo.
“Fodd bynnag, nid oedd yn mynd yn ddigon pell. Dylai hwn fod wedi bod yn drobwynt i fynd i’r afael â gwaddol peryglus pob tomen glo unwaith ac am byth, ond mae’r gwaith yn parhau’n anorffenedig. Nawr, oherwydd stormydd eithafol a achosir gan newid hinsawdd, rydym wedi profi rhagor dirlithriadau o domenni glo.
“Bu tirlithriad mawr uwchben Tylorstown yn Rhondda Fach yn 2020. Yna, ym mis Tachwedd 2024, yng Nghwmtyleri, Blaenau Gwent, bu tirlithtiad arall a achoswyd gan law trwm o Storm Bert. Arweiniodd hyn at bob math o weddillion yn disgyn ar gymunedau gan orfodi pobl i adael eu cartrefi.
“Ni ddylai unrhyw deulu fynd i’r gwely yn ofni’r cwm o’u cwmpas — ac ni ddylai unrhyw gymuned orfod talu’r pris am esgeulustod llywodraethau’r gorffennol. Mae Plaid Cymru wedi rhybuddio ers tro nad yw diogelwch ein tomenni glo yn fater ar gyfer yfory; mae’n fater y mae angen mynd i’r afael ag ef ar frys.”
Bydd yr AS Ann Davies yn mynd ymlaen i ddweud:
“Mae’r ddadl hon yn ymwneud â chyfiawnder. Mae’n ymwneud ag urddas. Mae’n ymwneud â sicrhau nad yw pobl Cymru’n cael eu gadael i dalu’r pris—yn ariannol nac yn emosiynol—o ganlyniad i benderfyniadau a wnaed genedlaethau’n ôl.
“Gadewch inni weithredu nawr, nid pan fydd y storm nesaf yn taro na phan fydd y tirlithriad nesaf yn digwydd. Gadewch inni weithredu gan mai dyma’r peth cywir i wneud, y peth cyfiawn, a gan nad yw ein cymunedau’n haeddu dim llai.
“Rhaid i’r Llywodraeth ailystyried y ffordd mae’n mynd i'r afael â diogelwch tomenni glo yng Nghymru er mwyn cefnogi’r cymunedau sydd, ddegawdau ar ôl i’r glo diwethaf gael ei dynnu o’n dyffrynnoedd, yn dal i ysgwyddo baich y gwaddol.”