Mae llefarydd Plaid Cymru dros Newid Hinsawdd, Delyth Jewell, wedi beirniadu oedi Llafur cyn cyflwyno deddfwriaeth i sicrhau diogelwch tipiau glo yng Nghymru.

Ar ddydd Mawrth, Ebrill 28ain, bydd y Senedd yn trafod egwyddorion cyffredinol y Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir hir-ddisgwyliedig.

Mae'r AS Plaid Cymru wedi beirniadu Llywodraethau Llafur yn San Steffan a Bae Caerdydd. Dywedodd na fydd y "£25 miliwn a roddwyd gan y Trysorlys y llynedd yn cyffwrdd yr ochrau wrth dalu am y gwaith sydd angen ei wneud" a bod y ddeddfwriaeth yn 'hwyr', ac angen ei gryfhau.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros yr Amgylched, Delyth Jewell AS:

"Ni ddylai Cymru orfod talu i glirio tipiau glo o'n cymoedd - maen nhw'n etifeddiaeth o esgeulustod San Steffan dros ddegawdau, a dylen nhw fod yn talu'r bil. Mae'r bil sydd gerbron y Senedd, er ei fod yn hwyr, yn cael ei groesawu, ond byddaf yn pwyso am newidiadau i'w gryfhau.

"Mae llywodraethau ar ddau ben yr M4 wedi gwybod am berygl y tipiau glo hyn ers blynyddoedd, ac mae'n siomedig ei bod wedi cymryd cymaint o amser i ddeddfwriaeth gael ei gyflwyno. Gyda newid hinsawdd a mwy o law yn gwaethygu'r peryglon y mae'r tipiau hyn yn eu cyflwyno, ni allwn fforddio aros i wneud y tipiau hyn yn ddiogel. Roedd yr hyn a ddigwyddodd yng Nghwmteleri'r llynedd yn gwneud hynny'n syfrdanol o glir.

"Mae'r ddeddfwriaeth yn dawel ar un mater mawr, sef faint o gyllid y byddwn yn ei dderbyn gan San Steffan yn y dyfodol i glirio'r tipiau. Ni fydd y pryder sy'n treiddio trwy gymunedau sy'n byw yng nghysgod y tipiau hyn yn cael ei godi nes i ni gael eglurder pryd y bydd y cyllid hanfodol hwnnw'n cael ei gadarnhau. Ni fydd y £25 miliwn a roddwyd gan y Trysorlys y llynedd yn cyffwrdd yr ochrau wrth dalu am y gwaith sydd angen ei wneud. Mae Cymru eisoes wedi aros degawdau yn rhy hir am yr arian hwn. Ni all ein cymunedau fforddio aros yn hirach."