Rhaid i lygrwyr sy’n gyfrifol am halogi tir dalu i’w wneud yn iawn – Niamh Salkeld AS
Mae galwadau ar y Senedd i uno i erfyn ar Lywodraeth y DU i fynd i’r afael a thir halogedig a gwneud i lygrwyr dalu
Mae’n rhaid i Lywodraeth y DU dal llygrwyr yn gyfrifol am halogiad tir sy’n effeithio ar gymunedau ledled Cymru a thalu i’w gywiro, meddai Niamh Salkeld AS.
Amcangyfrifir bod 45,000 o safleoedd tir halogedig ledled Cymru gan gynnwys Chwarel Ty Llwyd, Ynysddu - a ymddangosodd ar raglen ddogfen ddiweddar Michael Sheen ar wastraff diwydiannol gwenwynig - lle cafodd sylweddau eu dympio gan Monsanto yn yr 1960au a’r 70au.
Heddiw (dydd Mercher 30 Medi 2026), mae Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Flaenau Gwent Caerffili Rhymni yn arwain ar ddadl yn y Senedd ar dir halogedig. Bydd y ddadl yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydweithio a Llywodraeth y DU i sicrhau fod costau adfer yn cael eu talu gan lygrwyr; ac i Lywodraeth y DU ariannu ymchwiliad ac adfer lle nad oes modd adennill costau gan lygrwyr.
Mae’r cynnig hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu fframwaith cenedlaethol i brofi ac asesu tir a allai fod wedi’i halogi, ac i gefnogi awdurdodau lleol i gyflawni eu cyfrifoldebau statudol.
Wrth siarad ymhen y ddadl, dywedodd yr Aelod dros Flaenau Gwent Caerffili Rhymni fod cymunedau wedi’i gadael i wynebu’r canlyniadau, tra bod llygrwyr wedi medru osgoi cyfrifoldeb.
Meddai Niamh Salkeld AS:
“Am nifer o bobl ledled Cymru a chymunedau fel Ynysddu - mae ein hanes diwydiannol ddim yn rhywbeth rydym yn cofio am. Maent yn parhau i fyw gyda’i gwaddod bob un dydd.
“Mae gweithgarwch diwydiannol hanesyddol yn golygu fod sylwedd wedi’i adael i dreiddio i’n tir a dŵr am ddegawdau, ac yn achos cemegau, am genedlaethau - gan olygu risgiau difrifol i iechyd bobl, iechyd anifeiliaid ac i’r amgylchedd ehangach.
“Tra bod cymunedau dal yn wynebu’r canlyniadau heddiw, mae llygrwyr wedi medru osgoi cyfrifoldeb am lawer rhy hir.
“Nid yn unig yw’r Ddadl Aelod yma am sicrhau ein bod yn medru rheoli’n gorffennol diwydiannol yn iawn - ond mae’n gyfle i’r Senedd uno er lles ein cymunedau.
“Gyda’n gilydd, gallwn sicrhau darlun cenedlaethol cliriach o dir halogedig, gan flaenoriaethu’r safleoedd lle mae mwy o risg, cefnogi awdurdodau lleol, ac annog Llywodraeth y DU i ddal llygrwyr yn gyfrifol a chyfrannu at ei gywiro.”
Dywedodd Cynghorydd Annibynnol ward Ynysddu, Cyng. Janine E Reed:
“I’n cymuned, nid mater amgylcheddol yn unig yw Ty Llwyd, mae’n rhywbeth sydd wedi bod yn hongian drosom ers blynyddoedd. Mae canlyniadau’r hyn sydd wedi digwydd yma yn cael eu teimlo gan y bobl sy’n byw ochr yn ochr ag ef.
“Mae angen i’r halogiad gael ei ddeall yn iawn, i’r risgiau i’n cymuned gael ei gymryd o ddifrif, a chynllun clir i sicrhau nad yw Ty Llwyd a safleoedd eraill yng Nghymru ddim yn parhau i fod yn destun pryder i bobl leol – gyda sicrwydd bod ein cymuned a’i dyfodol yn cael eu diogelu.”