Mae Liz Saville Roberts AS yn annog Llywodraeth y DU i weithredu mesurau a fyddai’n targedau costau byw uwch i bobl yng Nghymru.

Heddiw (Dydd Iau 21 Mai 2026), dywedodd arweinydd grŵp Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS, er bod mesurau costau byw Llywodraeth y DU a gyhoeddwyd gan y Canghellor, Rachel Reeves, i’w chroesawu, nid ydynt yn ystyried yn ddigonol y costau uwch mae tai Cymreig y neu gwynebu sy’n gofyn am ymyrraeth wedi’i dargedu. 

Mewn dataniad i Dŷ’r Cyffredin, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cyfres o fesurau mewn ymateb i’r costau uwch sy’n wynebu cartrefi a busnesau o ganlyniad i’r rhyfel yn Iran.

Mae’r mesurau hyn yn cynnwys: ymestyn y gostyngiad treth tanwydd, newidiadau i’r dreth elw canegn dramor; newidiadau i’r dreth elw cangen dramor’ atal tollau ar rai bwydydd mewn archfarchnadoedd; Cynllun Arbedion Haf Mawr Prydain i leihau cyfradd TAW ar rai atyniadau’n dros dro; a chludiant bws am ddim ledled Lloegr i balnt ym mis Awst.

Mae Ms. Saville Roberts wedi cyfieiro at yr “anghydraddoldeb strwythurol” mewn costau ynni sy’n effeithio ar dai yng ngogledd Cymru, a galw ar lywodraeth y DU i wella costau tai i aelwydydd gyda “mesurau hir dymor”.

Wrth ymateb yn Nhŷ’r Cyffredin, dywedodd Liz Saville Roberts AS:

“Mae pobl yn ymwybodol iawn bod rhyfel Trump gydag Iran yn gwaethygu costau byw.

“Ond mae yna mesurau o fewn gallu’r Llywodraeth y DU – mesurau hir dymor – gall wella costau gwresogi i aelwydydd.

“Yng ngogledd Cymru ac ym Merseyside, rydym yn talu cyfwerth â £255 yr flwyddyn ar daliadau sefydlog – o’i cymharu â £160 yn Llundain.

“Pryd fydd hi’n mynd i’r afael â’r anghydraddoldeb strwythurol hwn mewn costau gwresogi?”

Wrth ymateb, dywedodd y Canghellor, Rachel Reeves:

“Yn y Gyllideb llynedd, fe wnes i leihau biliau ynni gan £150 a rhoi arian ychwanegol ond wythnosau yn ô li helpu gyda’r cost olew gwresogi.

“Mae’r fater o dâl sefydlog a’r dyraniadau hynny yn un i DESNZ, ond fe wnaf i basio’i phryderon ymlaen i’r Gweinidog perthnasol.”

 

Yn siarad wedi’r ddadl, ychwanegodd Ms. Saville Roberts:

“Tra bod cefnogaeth gan Lywodraeth y DU i’w chroesawu, mae’r Canghellor heb liniaru fy mhryderon bod maint yr heriau sy’n wynebu people yng Nghymru yn cael ei ystyried yn llawn - gan gynnwys ein costau gwresogi cynyddol.

“Nid yw’r mater yn unig am daliadau sefydlog chwaith - mae hefyd gennym y stoc tai hynaf yn y DU, a chyfran uchel o dai off-grid sy’n cwympo tu allan i’r cap prisiau ynni.

“Felly, tra bydd teuluoedd Cymreig yn sicr yn buddio o’r estyniad i ostwng y dreth ynni, a’r gostyngiad dros dro ar VAT ar atyniadau gwyliau haf - mae’r pecyn hwn yn methu ag adnabod costau unigryw sy’n wynebu cartrefi a busnesau Cymreig. Mae angen ymateb difrifol a dyfal ar Gymru.

“O roi’r diwedd ar daliadau sefydlog, cynyddu cefnogaeth i’r rheiny’n ddibynnol ar olew gwresogi neu LPG, mynd i’r afael â chwmnïoedd ynni yn ecsbloetio’r argyfwng, a lleihau biliau gan dorri’r cysylltiad rhwng prisiau nwy ac electrig - mae Plaid Cymru yn galw ar lywodraeth y DU i gynnwys mesurau wedi’i dargedu a fydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i gymunedau ar draws Cymru.”