Dengys ffigyrau a gafwyd gan Blaid Cymru fod marwolaethau mewn cartrefi gofal i oedolion yng Nghymru wedi mwy na dyblu ym mis Ebrill o gymharu â’r cyfnod cyfatebol llynedd.

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru Adam Price fod “tan-adrodd sylweddol” am farwolaethau Covid-19 yng Nghymru petai’r cynnydd yn ganlyniad i’r feirws.

Yn ôl Arolygiaeth Gofal Cymru, cofnodwyd cyfanswm o 486 o farwolaethau rhwng Ebrill 1 a’r 14. 220 oedd y ffigwr cyfatebol am 2019.

Cafwyd cynnydd tebyg yng nghyfanswm nifer y marwolaethau rhwng Mawrth 26 ac Ebrill 8 (431) o gymharu â’r un cyfnod yn 2019 (229).

Meddai Arweinydd Plaid Cymru Adam Price,

“Mae pob marwolaeth yn golled drychinebus i unigolion a theuluoedd yn ogystal ag i’r sawl sy’n gofalu am y mwyaf bregus mewn cymdeithas.”

“Er na allwn fod yn sicr o achos y marwolaethau, mae’n fater o gryn bryder fod nifer y marwolaethau yr adroddwyd amdanynt mewn cartrefi gofal yng Nghymru wedi mwy na dyblu o ganlyniad i’r cyfnod cyfatebol llynedd.”

“Ymddengys mai rhesymol yw tybio fod llawer yn marw ar ôl dal Covid-19,  ac os felly, mae tan-adrodd sylweddol o wir nifer y marwolaethau oherwydd y feirws.”