Plaid Cymru yn galw am fesurau cymorth ychwanegol ar gyfer hen ardaloedd diwydiannol y de sydd â chyfraddau uchel o haint

Mae Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i greu “Ardaloedd Cymorth Arbennig Covid” dynodedig a fyddai'n gymwys i gael mesurau cymorth ychwanegol gan gynnwys ar gyfer y rhai sy'n glinigol fregus ac sy'n methu gweithio o gartref, adnoddau profion ac olrhain ychwanegol, ac ychwanegu at y grant hunan-ynysu i £800.

Bydd yr alwad yn cael ei chodi mewn dadl yn y Senedd heddiw (dydd Mercher 18 Tachwedd), dan arweiniad Plaid Cymru.

Mae'r cynnig yn nodi'r parhad yn y cyfraddau heintio Covid-19 uchel mewn rhannau o dde Cymru a'r ymchwil ddiweddar sy'n awgrymu y gallai'r feirws effeithio'n anghymesur ar gymunedau ôl-ddiwydiannol, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddynodi ardaloedd lle ceir cyfraddau heintio uwch fel “Ardaloedd Cymorth Arbennig Covid”.

Yn benodol, bydd y cymorth ychwanegol o fudd i ardaloedd o'r de gyda chyfraddau heintio uchel fel Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Blaenau Gwent.

Dywedodd Leanne Wood, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros y Rhondda,

“Mae angen cymorth ychwanegol i'r rhai sy'n clinigol fregus, na allant weithio gartref, ond sy'n byw ac yn gweithio mewn ardaloedd lle mae Covid-19 yn gyffredin iawn.

“Mae rhannau o'n hen ardaloedd diwydiannol sydd yn parhau a chyfraddau uchel o’r haint yn cynnwys fy etholaeth i. Ni ddylid rhoi pobl nad ydynt yn gallu gweithio gartref ond sy'n glinigol fregus yn y sefyllfa lle mae'n rhaid iddynt ddewis rhwng peryglu eu hiechyd neu roi bwyd ar y bwrdd.

“Mae mesurau ychwanegol y gellir eu cymryd i helpu pawb yn y rhanbarth - gellid rhoi blaenoriaeth awtomatig i ardaloedd cymorth arbennig ar gyfer rhaglenni profi torfol a chyflwyno brechlynnau'n gynnar. Gellid cynyddu grantiau hunan-ynysu i £800 er mwyn sicrhau y gallai pobl sy'n glinigol fregus fforddio aros gartref a chadw’n ddiogel.

“Mae'n amlwg o'r lefelau styfnig o uchel o’r haint fod angen dull gweithredu gwahanol mewn rhai rhannau o'r de, a gallai cynnig Plaid Cymru nid yn unig helpu i reoli cyfraddau heintio, ond helpu i gadw ein pobl fwyaf bregus yn ddiogel hefyd.”