Adroddiad ymchwiliad Covid y DU yn 'gondemniad damniol' o ymateb llyowdraethau'r DU a Chymru i'r pandemic
“Does ddim gan deuluoedd y rhai a gollodd eu bywydau'r atebion maent eu hangen” – Heledd Fychan AS
Dywedodd Heledd Fychan, Aelod Senedd Plaid Cymru:
“Mae'r adroddiad heddiw yn atgoffwr clir o raddfa'r gost ddynol cafodd y pandemig ar gymunedau ledled Cymru.
"Mae hefyd yn gondemniad damniol o'r ymateb gan Lywodraethau’r DU a Chymru, a sut wnaeth y ddau methu gwneud yr hyn oedd ei hangen i gadw pobl yn ddiogel. Ni wnaeth Llafur na'r Ceidwadwyr wneud penderfyniadau yn ddigon cyflym nac yn ddigon effeithiol - a phobl yng Nghymru wnaeth dalu'r pris.
"Yn hanfodol, mae'r adroddiad yn canfod mai'r penderfyniadau a wnaed gan weinidogion Llafur oedd y rheswm 'tebygol' mai Cymru wnaeth dioddef y gyfradd uchaf o farwolaethau, a bydd y canfyddiad yma'n achosi poen sylweddol i bawb wnaeth colli annwyliaid ar yr adeg hon.
"Does ddim gan deuluoedd a ffrindiau'r rhai a gollodd eu bywydau'r atebion maent eu hangen neu maent yn eu haeddu o hyd. Dyw'r adroddiad hwn - na chwaith yr ymchwiliad ehangach - ddim yn rhoi'r eglurder na'r cysur hwn iddynt.
"Y gwir yw na fyddwn byth yn dod i ddeall effaith y pandemig ar Gymru yn llawn oherwydd bod Llafur wedi gwrthod dro ar ôl tro cynnal ymchwiliad penodol yng Nghymru, ac wedi rhwystro ymdrechion Plaid Cymru i sefydlu un.
"Byddai Llywodraeth Plaid Cymru yn 2026 yn cynnal ymchwiliad pwrpasol i adnabod y bylchau, er mwyn craffu ar benderfyniadau Llywodraeth Cymru ar y pryd yn briodol - gan ddarparu'r tryloywder a'r atebolrwydd na allai'r ymchwiliad hwn gyflawni."