Mae Plaid Cymru wedi ymuno gyda phleidiau eraill o Ogledd Iwerddon a’r Alban i gefnogi galwad yr SDLP am adalw’r Senedd ar unwaith i drafod y sefyllfa enbyd yn Gaza.

Mae’r llythyr at Brif Weinidog y DU, Keir Starmer, hefyd yn cynnwys galwadau am ymyrraeth ddiplomyddol, terfyn ar werthu arfau i Israel, a chyflwyno cymorth dyngarol ar unwaith.

Y pleidiau eraill sy'n ymuno gyda’r SDLP a Phlaid Cymru yn arwyddo’r llythyr yw’r SNP, Sinn Fein, Alliance, Democratiaid Rhyddfrydol yr Alban, Gwyrddion yr Alban, a People before Profit.

Ysgrifennodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS, ac Arweinydd Grŵp San Steffan Plaid Cymru, Liz Saville-Roberts AS, at y Prif Weinidog ar 23 Gorffennaf, yn galw ar Lywodraeth y DU i osod embargo arfau ar unwaith ar Israel ac i gydnabod gwladwriaeth Palesteina yn swyddogol.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS:

“Rydym yn falch o sefyll ochr yn ochr â phleidiau eraill wrth alw am adalw’r Senedd ar unwaith i drafod y digwyddiadau erchyll sy’n parhau i ddatblygu yn Gaza. Mae’n ddyletswydd ar Lywodraeth y DU i’w wneud yn glir na fydd gweithredoedd Israel yn cael eu goddef, ac i gymryd camau brys i ddod â’r dioddefaint dyddiol sy’n wynebu pobl Gaza i ben.”

Dywedodd Arweinydd Grŵp San Steffan Plaid Cymru, Liz Saville-Roberts AS:

“Mae Plaid Cymru wedi galw ers tro ar Lywodraeth y DU i wneud popeth o fewn eu gallu i atal yr hil-laddiad parhaus yn Gaza.  Byddai adalw’r Senedd yn rhoi cyfle i ASau graffu gweithredoedd annigonol Llywodraeth y DU yn wyneb argyfwng rhyngwladol a dyngarol cynyddol, ac i fynnu camau pendant ar unwaith fel gall y Deyrnas Unedig gyfrannu at ddod â’r dinistr i ben.”

Dywedodd Arweinydd yr SDLP, Claire Hanna AS:

“Mae’r sefyllfa yn Gaza yn gwaethygu bob dydd. Mae Israel wedi dangos nad ydynt am stopio wrth geisio dileu’r ardal a’i phobl oddi ar y map ac mae methiant Llywodraeth y DU ac arweinwyr eraill ar draws y byd i’w dal i gyfrif wedi’i hyfhau.

“Heddiw mae’r SDLP yn falch o arwain pleidiau eraill o bob cwr o’r ynysoedd yma i ddweud – dim mwy. Efallai mai ein llais ni yw’r unig arf sydd gennym ni – ond gyda’n gilydd mae’n un pwerus a gallwn dynnu sylw at fethiant y Prif Weinidog a’i lywodraeth i amddiffyn pobl ddiniwed Gaza rhag yr argyfwng dyngarol gwaethaf o’n hoes.

“Rydym yn mynnu bod y Senedd yn cael ei adalw ar unwaith ac am ymyrraeth sy’n anfon neges glir at Lywodraeth Israel na all hyn barhau. Rhaid i’r Prif Weinidog ei gwneud yn glir i Netanyahu na fydd llywodraeth y DU yn aros yn ddistaw wrth iddo gynnal hil-laddiad yn erbyn pobl Gaza.

“Rhaid i’r Prif Weinidog ddefnyddio pob lifer sydd ar gael iddo i ddod â’r dioddefaint yn Gaza i ben. O wahardd gwerthu arfau i Israel a sicrhau cymorth dyngarol ar unwaith. Nid oes gan bobl Gaza amser i'w golli, ac rydym yn sefyll yn unedig gyda phleidiau eraill heddiw wrth alw ar lywodraeth y DU i weithredu, o'r diwedd."