Ystâd y Goron: e-bostiwch eich AS
E-bostiwch eich Aelod Seneddol yn eu hannog i gefnogi hawl Cymru i reoli ei hadnoddau naturiol ei hun.
Mae Mesur Ystâd y Goron Cymru Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth y DU i drosglwyddo pwerau dros adnoddau naturiol Cymru i Lywodraeth Cymru fel y gellir cadw’r elw a gynhyrchir a'i ail-fuddsoddi yn ein cymunedau, yn hytrach na'i anfon yn syth i Lundain.
Ar ddydd Mawrth 20 Ionawr, pasiodd y Mesur hwn ei gam olaf yn Nhŷ'r Arglwyddi. Mae Llinos Medi AS wedi ailgyflwyno'r Mesur i Dŷ'r Cyffredin, ond mae nawr yn gyfrifoldeb ar Lywodraeth y DU i wneud amser ar ei gyfer.
Anogwch eich AS i lofnodi Cynnig Cynnar Llinos Medi AS sy'n galw ar Lywodraeth y DU i roi amser seneddol ar gyfer y Mesur hwn: