Mae Plaid Cymru yn addo cynyddu gwariant flwyddyn ar ôl blwyddyn ar gyfer diwylliant, y celfyddydau a chwaraeon wedi dros ddegawd o danfuddsoddi

Ddydd Gwener 8 Awst 2025, bydd llefarydd Plaid Cymru dros Ddiwylliant, Heledd Fychan AS, yn traddodi darlith ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam ar ddyfodol diwylliant a'r celfyddydau yng Nghymru – gan amlinellu sut y bydd llywodraeth Plaid Cymru yn gwneud y sectorau hyn yn rhan ganolog o'i chenhadaeth i wneud Cymru'n genedl iachach a chyfoethocach, ac fel rhan o agenda iechyd ataliol newydd. 

Golyga hyn y bydd Llywodraeth Plaid Cymru yn cymryd ymagwedd llywodraeth gyfan tuag at ddiwylliant gan alluogi’r sector i chwarae rhan hanfodol o ran lles, twf economaidd a chydlyniant cymdeithasol. Yn 2023/24 yn unig, roedd pob £1 a fuddsoddwyd yn y celfyddydau yng Nghymru wedi cynhyrchu enillion economaidd gwerth £2.51 heb sôn am y buddion ehangach.

Ar ôl degawd o danfuddsoddi yn y sectorau diwylliant a'r celfyddydau yng Nghymru, mae Cymru bellach ail o waelod tabl holl wledydd Ewrop o ran gwariant fesul y person ar gyfer gwasanaethau diwylliannol.

Gan gydnabod pwysigrwydd y celfyddydau yng Nghymru, ac fel rhan o'i hymrwymiad i gynyddu'r gyllideb ataliol, bydd llywodraeth Plaid Cymru yn cynyddu gwariant ar ddiwylliant, y celfyddydau a chwaraeon flwyddyn ar ôl blwyddyn fel canran o gyllideb gyfan Gymru yn ystod ei thymor cyntaf.

Dywedodd Ms Fychan ‘nid moethion yw diwylliant a’r celfyddydau yma yng Nghymru, ond rhan annatod o bwy ydym ni fel cenedl.'

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros ddiwylliant a'r celfyddydau, Heledd Fychan AS:

"Bydd diwylliant, y celfyddydau a chwaraeon yn ganolog i uchelgais llywodraeth Plaid Cymru i greu Cymru iachach a chyfoethocach. Nid yn unig mae hynny'n golygu mwy o gyllid, ond agwedd newydd gan y llywodraeth i sicrhau bod diwylliant wrth wraidd popeth a wnawn.

"Diwylliant yw curiad calon Cymru. Dyma sut rydyn ni'n adrodd straeon, yn cadw ein hiaith fel iaith fyw, yn dathlu ein hanes, ac yn mynegi ein gwerthoedd. Mae'n ein cysylltu gyda’n gilydd, a gyda’n gorffennol.

"Ond o dan Lywodraeth Lafur Cymru, mae'r celfyddydau a'r diwylliant yng Nghymru wedi cael eu gadael i wywo, a mynediad atynt wedi cyfyngu. 

"Mae Plaid Cymru yn glir: nid moethion yw'r celfyddydau, diwylliant a chwaraeon, ond rhan annatod o bwy ydym ni fel cenedl – ac mae mynediad i bawb yn rhan hanfodol o gefnogi pobl i gadw'n iach yn gorfforol ac yn feddyliol."