Plaid Cymru yn datgelu cynllun i 'wella safonau a chanlyniadau triniaeth canser'
Ar Ddiwrnod Iechyd y Byd, mae PlaidCymru yn amlinellu eu cynllun canser fydd yn sicrhau bod y rhai sy'n cael diagnosis o ganser yn cael triniaeth o’r ansawdd haeddiannol.
Heddiw, ar Ddiwrnod Iechyd y Byd (dydd Mawrth, 7 Ebrill, 2026), mae llefarydd iechyd Plaid Cymru wedi amlinellu cynlluniau 'beiddgar ac uchelgeisiol' ei blaid i wella safonau triniaeth canser ar y GIG yng Nghymru, pe bai Plaid Cymru yn ffurfio Llywodraeth nesaf Cymru ar ôl etholiadau Cymru ar 7 Mai.
Cymru yw'r unig genedl yn y DU nad oes ganddo gynllun canser. Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, Mabon ap Gwynfor, fod hyn yn 'symbolaidd' o ddiffyg gweledigaeth ac uchelgais Llafur o ran codi safonau yn y GIG.
Dangosodd y data diweddaraf ar driniaeth canser y GIG mai dim ond 57% o bobl gafodd eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn 62 diwrnod ar ôl cael eu hamheu bod ganddynt ganser, er mai'r targed oedd 75%. Roedd hyn yn ostyngiad o 3.7% o'i gymharu â data'r mis blaenorol.
Bydd Plaid Cymru yn cyhoeddi ei maniffesto yn llawn ar 9 Ebrill yn Wrecsam.
Amlinellodd Mr ap Gwynfor sut y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn sicrhau cefnogaeth well a fwy amserol i'r 1 o bob 2 o bobl yng Nghymru fydd yn cael diagnosis o ganser yn ystod eu bywydau drwy:
-
Blaenoriaethu atal. Mae modd atal hyd at 40% o ganserau – byddwn yn helpu pobl i ddeall eu risg o ganser yn well a lleihau’r risg honno.
-
Rhoi mesurau newydd ar waith i sicrhau bod mwy o ganserau’n cael eu dal yn gynharach, gan gynnwys gwell prosesau sgrinio a hunansgrinio, ac ehangu hyfforddiant arloesol ‘ThinkCancer!’ i feddygon teulu a nyrsys practis.
-
Gweithio i sicrhau mynediad teg at wasanaethau canser ym mhob rhan o Gymru. Bydd hyn yn cynnwys cyflwyno cynlluniau ar gyfer Canolfan Diagnosis Cyflym newydd ym Mhowys - lle mae’n rhaid i gleifion deithio y tu allan i’r rhanbarth i gael asesiad arbenigol ar hyn o bryd oherwydd bod dim gwasanaethau diagnostig ar gael yn lleol.
-
Sefydlu cronfa i gefnogi cleifion sydd angen teithio am driniaeth arbenigol ar gyfer canserau prin gyda’u costau cludiant a llety.
-
Rhoi mwy o berchnogaeth a rheolaeth i gleifion dros driniaeth canser, drwy fframwaith Llwybrau Canser Optimaidd newydd ar gyfer Cymru – sy’n nodi’n union yr hyn y gall cleifion canser ei ddisgwyl a’r hyn y dylent ei ddisgwyl ar bob cam o’u triniaeth.
-
Sicrhau nad yw pobl sy’n goroesi canser yn cael eu diffinio gan eu cyflwr am oes – gan gynnwys deddfu ar gyfer ‘Hawl i anghofio’ i’w hamddiffyn rhag gwahaniaethu ar ffurf premiymau yswiriant uwch neu anawsterau wrth gael morgais.
-
Cryfhau’r rheolau cyfreithiol ynghylch caniatâd cleifion ar gyfer llawdriniaeth tiwmor ar yr ymennydd a storio meinwe tiwmor ar yr ymennydd.
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros iechyd, Mabon ap Gwynfor AS:
"Ni allwn ddathlu Diwrnod Iechydy Byd heb gydnabod brwydrau pobl sy'n byw gydag un o'r afiechydon mwyaf dinistriol, a'r lladdwyr mwyaf - canser.
"Yn symbol o ddiffyg gweledigaeth ac uchelgais Llafur o ran gyrru safonau yn y GIG, Cymru yw'r unig genedl yn y DU heb gynllun canser, a phobl Cymru sy'n talu'r pris.
"Nid yw safonau canser yn ein GIG yn ddigon da. Dyw gormodedd o bobl ddim yn derbyn y gofal, y driniaeth a'r gefnogaeth maen nhw'n eu haeddu mewn ffordd effeithiol neu amserol, gyda thargedau yn cael eu methu’n gyson.
"Mae Plaid Cymru yn gwybod nad hyn yw’r gorau gall Gymru fod, a dyna pam mae gennym strategaeth feiddgar, uchelgeisiol i sicrhau bod yr 1 o bob 2 o bobl fydd yn cael diagnosis o ganser yn ystod eu bywydau yn cael gwasanaeth gwell, mwy amserol.
"Drwy flaenoriaethu atal, dal canserau yn gynharach, sicrhau tegwch wrth ddarparu gwasanaethau, a chryfhau rheolau ynghylch caniatâd claf – bydd Plaid Cymru yn codi safonau ac yn gwella canlyniadau o ran triniaeth canser.
"Ni fydd methu targedau a gostwng safonau yn cael eu trin fel y sefyllfa arferol yn y GIG yng Nghymru mwyach.
"Tra bod Reform yn fflyrtio gyda'r syniad o orfodi pobl i dalu am eu triniaeth canser – mae Plaid Cymru yn mynd ymlaen â'r gwaith o wneud gwahaniaeth cadarnhaol ym mywydau pobl.
"Mae Plaid Cymru yn cynnig arweinyddiaeth newydd i Gymru gyda chynlluniau gwirioneddol i wella safonau iechyd ledled Cymru a sicrhau bod y rhai sy'n cael diagnosis o ganser yn cael triniaeth o’r ansawdd mae nhw'n eu haeddu.”