Mae cynlluniau’r Swyddfa Gartref i ddiwygio plismona yn cryfhau’r achos dros ddatganoli’n llawn, meddai Liz Saville Roberts AS

Mae Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS, wedi dweud bod y gwaith o ailwampio plismona gan Lywodraeth y DU – gan gynnwys cynigion a allai leihau nifer y lluoedd heddlu yng Nghymru – yn gwneud hwn yn foment dyngedfennol i ddatganoli pwerau plismona a chyfiawnder yn llawn i Gymru. 

Mae adroddiadau bod yr Ysgrifennydd Cartref, Shabana Mahmood, yn paratoi i orfodi diwygiadau helaeth ledled Cymru a Lloegr, gyda’r posibiliad o uno lluoedd i greu rhai rhanbarthol “enfawr”, unwaith eto’n amlygu sut mae penderfyniadau mawr sy’n effeithio ar gymunedau Cymru yn cael eu gwneud heb gydsyniad democrataidd Cymru. 

Ar hyn o bryd mae pedwar o luoedd heddlu yng Nghymru - Heddlu De Cymru, Heddlu Gwent, Heddlu Dyfed-Powys a Heddlu Gogledd Cymru. O dan gynigion Llywodraeth y DU, gallai’r lluoedd hyn gael eu uno fel rhan o gynllun ehangach i leihau cyfanswm nifer yr heddluoedd ledled Cymru a Lloegr o 43 i gyn lleied â 12. 

Mae Plaid Cymru wedi dadlau ers tro y dylid datganoli plismona a chyfiawnder i Gymru, yn unol â’r trefniadau sydd eisoes yn eu lle yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Argymhellodd adroddiad trawsbleidiol Comisiwn Silk yn 2014 ddatganoli pwerau plismona, fel y gwnaeth Comisiwn Thomas yn 2019, a'r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru yn 2024. Mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod y galwadau hyn dro ar ôl tro. 

 

Dywedodd Liz Saville Roberts AS:

“Mae’r ad-drefnu arfaethedig i blismona yng Nghymru yn cael ei wthio gan San Steffan, heb fawr o ystyriaeth i ddaearyddiaeth, cymunedau, iaith nag anghenion cymdeithasol Cymru. Mae penderfyniadau fydd yn ail-lunio gwasanaethau cyhoeddus Cymru unwaith eto’n cael eu gwneud heb i Gymru gael y pŵer i benderfynu drosto’i hun. 

“Os yw strwythurau plismona yng Nghymru am newid, rhaid gwneud y penderfyniadau hynny yng Nghymru, gan sefydliadau sy’n atebol i bobl Cymru. Mae’r ‘un dull addas-i-bawb' a orfodir gan San Steffan yn peryglu gwanhau atebolrwydd lleol a phellhau plismona oddi wrth y cymunedau y mae’n eu gwasanaethu.  

“Mae iechyd, tai, llywodraeth leol, gwasanaethau ieuenctid a chymorth iechyd meddwl eisoes wedi’u datganoli. Mae cadw plismona a chyfiawnder y tu allan i reolaeth Cymru yn tanseilio llunio polisïau cydgysylltiedig ac yn gadael Cymru’n gyfrifol am ganlyniadau heb y pwerau sydd eu hangen i’w gwireddu. 

“Os yw Llafur o ddifrif am ganlyniadau gwell i gymunedau, dylai o’r diwedd wrando ar y dystiolaeth a gasglwyd gan dri chomisiwn annibynnol ers 2011 a datganoli plismona a chyfiawnder yn llawn i Gymru. Dyna’r unig ffordd i sicrhau bod diwygiadau’n darparu system gyfiawnder sy’n gweithredu’n well ac yn cryfhau atebolrwydd democrataidd.”