Annog gwahanol driniaethau ac ymyriad cynharach i ysgafnhau pwysau Covid19 ar y GIG ac achub bywydau

headerimage.jpg

Mae Plaid Cymru yn galw am ymyriad cynharach i adnabod cymhlethdodau Covid19 posib a thrin cleifion yn y gymuned fel rhan o’r arfogaeth yn erbyn Covid-19.

Gallai strategaeth newydd gynnwys profion syml i ganfod lefelau isel o ocsigen mewn cleifion gyda symptomau llai dwys, wedi’i ddilyn gan driniaeth ocsigen CPAP, y gellid hyd yn oed ei wneud yn y cartref.

Gan ddyfynnu tystiolaeth o’r Eidal ac o’r Gyfadran Meddyginiaeth Gofal Dwys, dywedodd y llefarydd Iechyd Rhun ap Iorwerth y gallai ymyriad cynnar ‘newid popeth’ yn y frwydr i sicrhau y gall pobl wael ddod atynt eu hunain yn gynt a chael eu cadw allan o’r ysbyty. 

Wrth ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd, dywedodd Mr ap Iorwerth:

“A allai cynnal profion ocsigen-gwaed ar raddfa eang i’r sawl gyda symptomau llai difrifol -hyd yn oed anfon allan synwyryddion i gynnal profion yn y cartref, neu mewn canolfannau asesu - fod yn ffordd ymlaen? Byddai modd hyd yn oed anfon peiriannau CPAP i gartrefi cleifion iddynt eu defnyddio eu hunain. Rwy’n gweld mwy a mwy o dystiolaeth o werth cymryd yr agwedd hon o drin eich hunan neu driniaeth yn y cartref, ac y mae gall awgrymiadau y bydd modd i ymyriad cynnar - mewn lleoliad yn y cartref, efallai - chwarae rhan yn y drefn o roi triniaeth.”

 Yn dilyn y llythyr, meddai Mr ap Iorwerth:

 “Rhaid ystyried pob ffordd o weithredu yn y frwydr yn erbyn COVID-19. Gallai cyflwyno dyfeisiadau i brofi lefelau ocsigen yn y cartref a pheiriannau CPAP y gellir eu defnyddio gartref newid popeth

 “Mae dadleuon cryf i awgrymu y dylai Gweinidogion gynnig Cynllun B fyddai’n golygu trefn newydd o driniaeth fel mater o frys. Yn fwyaf amlwg, dywed y Gyfadran Meddyginiaeth Gofal Dwys y gall CPAP fod o les i gleifion yn gynharach nag y tybiwyd yn hynt y clefyd, ac fe allai atal y dirywiad mewn rhai cleifion i’r graddau na fyddai angen i rai ohonynt fwrw ymlaen i fod angen awyru mwy ymyrrol.”

 Mae Mr ap Iorwerth wedi ysgrifennu nifer o weithiau at Lywodraeth Cymru yn pledio ymyriad cynharach. Ychwanegodd:

“Gallai gweithredu ynghynt arbed amser, adnoddau, a bywydau yn y pen draw.”

 “Rwy’n dymuno’n dda i Boris Johnson wedi iddo gael ei gymryd i’r ysbyty. Dywedwyd nad aeth i mewn fel claf brys ac iddo gael ocsigen. Dyna’r union fath o driniaeth yr ymddengys sy’n cael ei ffafrio gan fwy a mwy o arbenigwyr.”