Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant

Fformat amgen: Lawrlwytho fel PDF (93.7 kB)


Ar y dudalen hon

  1. Pwrpas a Chyd-destun
  2. Gweledigaeth
  3. Amcanion Strategol
  4. Ymgeiswyr am y Senedd
  5. Estyn Allan a Rhaglen Datblygu Ymgeiswyr
  6. Cyfnodau’r Rhaglen
  7. Symud Rhwystrau i Gyfranogi
  8. Casglu Data a Thryloywder
  9. Diwylliant Cynhwysol y Blaid
  10. Llywodraethiant ac Atebolrwydd
  11. Cefnogaeth wedi’r Ymgyrch
  12. Ymrwymiad i’r Iaith Gymraeg a Chynrychioli Cymunedau
  13. Casgliad

1
Pwrpas a Chyd-destun

Mae’r strategaeth hon yn gosod allan agwedd Plaid Cymru tuag at wella cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar draws aelodaeth, strwythurau a chynrychiolaeth ymgeiswyr y blaid.

Mae’n cyflawni’r gofynion dan Adran 30 Deddf Etholiadau a Chyrff Etholeg (Cymru) 2024, sydd yn gofyn i bleidiau gwleidyddol cofrestredig wneud y canlynol:

  • datblygu a chyhoeddi Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant
  • casglu a chyhoeddi data am amrywiaeth wedi ei wneud yn ddienw ynghylch ymgeiswyr
  • adolygu’r strategaeth yn gyson.

Mae’r strategaeth hefyd yn cefnogi paratoadau Plaid Cymru ar gyfer etholiad y Senedd yn 2026, gan sicrhau bod y blaid yn parhau i adeiladu mudiad eang, cynrychioliadol a chynhwysol sy’n adlewyrchu amrywiaeth Cymru.

Mae Plaid Cymru yn cydnabod fod gwella cynrychiolaeth yn gofyn am ymdrech drefniadol estynedig, newid diwylliannol a mynd ati i estyn allan.  Mae’r strategaeth felly yn cyfuno newid strwythurol tymor-hir gyda chamau tymor-byr gyda’r nod o ehangu cynrychiolaeth cyn yr etholiad nesaf.

i'r brig


2
Gweledigaeth

Gweledigaeth Plaid Cymru yw un o fudiad gwleidyddol sydd yn adlewyrchu holl amrywiaeth Cymru ac sy’n galluogi pobl o bob cefndir i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus.

Ein nod yw adeiladu plaid sydd yn:

Cynrychioliadol
Mae ein hymgeiswyr a’n cynrychiolwyr etholedig yn adlewyrchu cymunedau Cymru, gan gynnwys pobl o gefndiroedd sydd wedi eu tangynrychioli.

Cynhwysol
Mae aelodau, ymgyrchwyr ac ymgeiswyr yn teimlo eu bod yn cael eu croesawu, eu parchu ac y rhoddir gwerth arnynt yn y blaid.

Hygyrch
Mae rhwystrau i gyfranogi gwleidyddol yn cael eu hadnabod a’u symud fel y gall pobl o bob cefndir gyfrannu at ddemocratiaeth Gymreig. Mae gwella cynrychiolaeth yn cryfhau cyfreithlondeb democrataidd ac yn sicrhau bod y Senedd yn cynrychioli’r gymdeithas mae’n ei gwasanaethu.

i'r brig


3
Amcanion Strategol

Mae agwedd Plaid Cymru at wella amrywiaeth a chynhwysiant yn canoli ar dri amcan craidd.

Cynyddu Cynrychiolaeth

Cynyddu cynrychiolaeth unigolion o gefndiroedd a dangynrychiolir mewn swyddi gwleidyddol, gan gynnwys:

  • menywod
  • cymunedau ethnig lleiafrifol
  • pobl LGBTQ+
  • pobl anabl
  • pobl o gefndiroedd cymdeithasol-economaidd difreintiedig
  • siaradwyr Cymraeg a dysgwyr o gefndiroedd amrywiol.

Adeiladu Galluedd

Bydd Plaid Cymru yn datblygu sgiliau, hyder, gwybodaeth a rhwydweithiau darpar- ymgeiswyr o grwpiau a dangynrychiolir fel y gallant lwyddo i sefyll mewn etholiadau a chymryd rhan mewn arweinyddiaeth wleidyddol.

Meithrin Amgylchedd Gwleidyddol Cynhwysol

Bydd y blaid yn hyrwyddo diwylliant cynhwysol yn ei strwythurau, digwyddiadau a gweithgareddau ymgyrchu, gan sicrhau fod y teimla pob aelod y gall gymryd rhan lawn.

i'r brig


4
Ymgeiswyr am y Senedd

Cwblhawyd prosesau dewis ar gyfer etholiad 2026 y Senedd yn 2025. Yr oedd gweithgareddau estyn allan a pharatoi wedi cychwyn ymhell cyn cyhoeddi canllawiau Llywodraeth Cymru, er mwyn gwneud yn siŵr fod darpar-ymgeiswyr yn cael eu hadnabod a’u cefnogi yn gynnar.

Yr oedd cyflwyno’r gwaith hwn yn golygu:

  • cydweithio gyda gwirfoddolwyr ac adrannau’r blaid fel Merched Plaid, Plaid Anabledd a Plaid Pride
  • partneriaeth gyda mudiadau allanol fel Elect Her ac Anabledd Cymru
  • mabwysiadu cwotâu rhyw sydd wedi sicrhau bod o leiaf 50% o ymgeiswyr a ddewiswyd yn fenywod a bod o leiaf 50% o ymgeiswyr oedd ar frig rhestrau yn fenywod.

i'r brig


5
Estyn Allan a Rhaglen Datblygu Ymgeiswyr

Mae Plaid Cymru yn gweithredu rhaglen estyn allan strwythuredig a fwriadwyd i adnabod, recriwtio a chefnogi darpar-ymgeiswyr o gefndiroedd amrywiol.

Mae’r rhaglen hon yn gweithredu ar lefel genedlaethol ac etholaeth, gyda chefnogaeth o bencadlys y blaid, canghennau lleol ac adrannau’r blaid.

Camau Estyn Allan Cychwynnol 

Ymysg y camau cychwynnol mae:

  • sicrhau yr hysbysir holl aelodau’r blaid am y Gofrestr Genedlaethol o Ymgeiswyr a therfynau amser ymgeisio
  • darparu canllawiau clir a hygyrch am y broses o ddewis ymgeiswyr
  • cynnal sesiynau hygyrch i esbonio rôl cynrychiolwyr etholedig
  • cyflwyno gweithdai a hyfforddiant wedi eu targedu at aelodau o gefndiroedd a dangynrychiolir a all fod â diddordeb mewn sefyll i’w hethol.

Nod yr ymyriadau cynnar hyn oedd sicrhau bod aelodau na fuasent fel arall  yn ystyried sefyll yn teimlo’n abl i ymchwilio i’r cyfle.

i'r brig


6
Cyfnodau’r Rhaglen

Caiff y rhaglen estyn allan ac amrywiaeth ei gweithredu’n barhaus trwy gymryd agwedd strwythuredig o sawl cam.

Cam 1 – Ymchwil ac Asesu Anghenion

Bydd Plaid Cymru yn cynnal dadansoddiad tirwedd o’i haelodaeth a llwybr tywys ymgeiswyr er mwyn deall lefelau cynrychiolaeth cyfredol.

Bydd hyn yn golygu:

  • arolygon amrywiaeth gwirfoddol
  • cyfweliadau a grwpiau ffocws gydag aelodau
  • ymwneud gyda mudiadau cymunedol
  • nodi rhwystrau i gyfranogi gwleidyddol.

Bydd y canfyddiadau yn sail o wybodaeth i adolygiadau o strategaeth amrywiaeth a chynhwysiant y blaid ac yn  help i adnabod grwpiau blaenoriaeth ar gyfer cefnogaeth wedi ei dargedu.

Cam 2 – Dylunio a Datblygu’r Rhaglen

Gan ddefnyddio’r dystiolaeth a gasglwyd yng Ngham 1, bydd y blaid yn dylunio rhaglenni wedi eu targedu gyda’r nod o gefnogi darpar-ymgeiswyr o grwpiau a dangynrychiolir. Bydd hyn yn cynnwys yr isod fydd yn digwydd yn gyson:

  • mentrau recriwtio a anelir at gymunedau amrywiol
  • ymgyrchoedd ymwybyddiaeth sy’n annog cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth
  • partneriaethau gyda mudiadau o gymdeithas sifig
  • estyn allan trwy rwydweithiau cymunedol a grwpiau eiriol.

Cam 3 – Adeiladu Galluedd a Chefnogaeth

Bydd Plaid Cymru yn cyflwyno cyfleoedd hyfforddi a datblygu cyson i ddarpar-ymgeiswyr, gan gynnwys:

  • rheoli ymgyrchoedd
  • siarad cyhoeddus ac ymwneud â’r cyfryngau
  • datblygu polisi
  • sgiliau arwain gwleidyddol
  • trefnu cymunedol.

Sefydlu rhwydwaith fentora i gysylltu ymgeiswyr ag uchelgais gyda chynrychiolwyr etholedig ac ymgyrchwyr profiadol.

Bydd y rhwydwaith hwn yn rhoi cyfarwyddyd, anogaeth a chyngor ymarferol ar sut i lywio trwy heriau bywyd gwleidyddol.

Cam 4 – Eiriol ac Ymwybyddiaeth

Bydd Plaid Cymru yn cynnal ymgyrchoedd ymwybyddiaeth cyhoeddus i danlinellu pwysigrwydd amrywiaeth a chynrychiolaeth yng ngwleidyddiaeth Cymru.

Bydd yr ymgyrchoedd hyn yn:

  • hyrwyddo pwysigrwydd sefydliadau cynhwysol democrataidd
  • annog unigolion o grwpiau a dangynrychiolir i ystyried cyfranogi gwleidyddol
  • chwyddo’r gronfa o ddarpar-ymgeiswyr y tu hwnt i rwydweithiau presennol y blaid.

Cam 5 – Monitro a Gwerthuso

Caiff effeithiolrwydd y strategaeth hon ei monitro’n barhaus.

Ymysg mecanweithiau gwerthuso bydd:

  • adborth gan gyfranogwyr
  • monitro data amrywiaeth
  • adolygiadau o berfformiad y rhaglen.

Bydd y data yn sail i addasiadau er mwyn sicrhau yr erys y rhaglen yn effeithiol ac ymatebol.

i'r brig


7
Symud Rhwystrau i Gyfranogi

Mae Plaid Cymru yn cydnabod fod rhai unigolion yn wynebu rhwystrau ychwanegol wrth geisio am swyddi gwleidyddol.

Bydd y blaid yn gweithio i leihau’r rhwystrau hyn trwy:

  • hyrwyddo mynediad at gynlluniau cefnogaeth ariannol sydd ar gael i ymgeiswyr
  • annog arferion ymgyrchu hyblyg sy’n cefnogi ymgeiswyr sydd â chyfrifoldebau gofal
  • sicrhau bod digwyddiadau a deunyddiau ymgyrchu yn hygyrch
    cyfeirio ymgeiswyr at gynlluniau cefnogi allanol, gan gynnwys y rhai sy’n cefnogi ymgeiswyr anabl.

Nod y camau hyn yw sicrhau nad yw unigolion yn cael eu rhwystro rhag sefyll am swyddi oherwydd rhwystrau ymarferol neu ariannol.

i'r brig


8
Casglu Data a Thryloywder

Bydd Plaid Cymru yn casglu data am amrywiaeth wedi ei wneud yn ddienw ynghylch ymgeiswyr yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.

Bydd y data hyn yn:

  • helpu i fonitro cynnydd tuag wella cynrychiolaeth
    nodi bylchau mewn cyfranogi
    cefnogi gwneud penderfyniadau ar sail o dystiolaeth.

Bydd yr holl ddata a gesglir yn wirfoddol, yn gyfrinachol ac yn cydymffurfio a deddfwriaeth diogelu data perthnasol.

i'r brig


9
Diwylliant Cynhwysol y Blaid

I wella cynrychiolaeth, mae’n rhaid cael diwylliant mewnol sy’n gefnogol.

Felly, bydd Plaid Cymru yn:

  • hyrwyddo ymddygiad cynhwysol ar draws holl strwythurau’r blaid 
  • sicrhau bod prosesau dewis ymgeiswyr yn deg a thryloyw
  • darparu hyfforddiant ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant lle mae hynny’n briodol
  • gofalu bod digwyddiadau’r blaid yn groesawgar ac yn hygyrch.

i'r brig


10
Llywodraethiant ac Atebolrwydd

Mae’r cyfrifoldeb am oruchwylio’r strategaeth hon yn gorffwys gyda’r Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol, a’r Pwyllgor Ymgyrchoedd yn arwain y gwaith cyflwyno.

Bydd y blaid yn cyhoeddi diweddariadau rheolaidd am gynnydd ac yn adolygu’r strategaeth o bryd i’w gilydd er mwyn sicrhau ei bod yn dal yn effeithiol.

i'r brig


11
Cefnogaeth wedi’r Ymgyrch

Mae Plaid Cymru yn cydnabod y dylai cefnogaeth ymgeiswyr barhau wedi ymgyrchoedd etholiadol.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn cefnogaeth gyson i ddatblygu eu swyddogaethau fel cynrychiolwyr.

Caiff ymgeiswyr nas etholwyd eu hannog i ddal i ymwneud â bywyd gwleidyddol a chant eu cefnogi i ddatblygu eu sgiliau ar gyfer cyfleoedd yn y dyfodol.

Mae’r agwedd hon yn help i gynnal ymwneud, datblygu profiad yn y blaid, a chryfhau’r llif o ymgeiswyr at y dyfodol.

i'r brig


Ymrwymiad i’r Iaith Gymraeg a Chynrychioli Cymunedau

Fel mudiad cenedlaethol wedi ei wreiddio mewn cymunedau Cymreig, bydd Plaid Cymru yn gwneud yn siŵr fod:

  • deunyddiau’r strategaeth ar gael yn Gymraeg a Saesneg
  • rhaglenni estyn allan yn cefnogi siaradwyr Cymraeg a dysgwyr
  • cyfranogi’n wleidyddol yn hygyrch ar draws Cymru benbaladr.

i'r brig


Casgliad

Mae Plaid Cymru wedi ymrwymo i adeiladu plaid a Senedd sy’n adlewyrchu amrywiaeth y Gymru gyfoes.

I wella cynrychiolaeth, bydd angen ymdrech estynedig, newid diwylliannol  a chefnogaeth ymarferol i’r sawl sy’n ystyried cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth.

Trwy’r camau a amlinellir yn y strategaeth hon, mae Plaid Cymru am chwyddo’r gronfa o ymgeiswyr, symud ymaith rwystrau i gyfranogi a chryfhau democratiaeth Gymreig.

i'r brig