Bydd lleihau rhwystrau masnach yn helpu cynhyrchwyr Cymru sy'n gwneud cyfraniad hanfodol i economi Cymru – Liz Saville Roberts AS

Yn ystod Cwestiynau Cymru yn Nhŷ'r Cyffredin heddiw (dydd Mercher 30 Ebrill), dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS, y bydd y sôn diweddar am bartneriaeth strategol newydd rhwng y DU a'r UE i leihau rhwystrau masnach yn 'hwb i'w groesawu' gan gynhyrchwyr bwyd a diod Cymru.

Ar hyn o bryd mae 75% o allforion y sector yn mynd i'r UE.

Amlygodd Ms Saville Roberts y cyfraniad hanfodol y mae cynhyrchwyr Cymru yn ei wneud i economi Cymru a gofynnodd i Jo Stevens AS i ymuno â hi i ddathlu gwaith a chyfraniad cynhyrchwyr a ffermwyr o bob cwr o Gymru.

Rhoddodd AS Dwyfor Meirionnydd sylw arbennig i rheiny fydd yn ymddangos yn Sioe Nefyn yn ei hetholaeth ac i'r rhai o Sir Gaerfyrddin a oedd yn ymweld â'r Senedd heddiw ar gyfer Diwrnod Sir Gaerfyrddin.

Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin, dywedodd Liz Saville Roberts AS:

“Bydd y sôn diweddar am bartneriaeth strategol newydd rhwng y DU a’r UE i leihau rhwystrau masnach yn hwb i'w groesawu i gynhyrchwyr bwyd a diodydd Cymru, o ystyried bod 75% o allforion y sector yn mynd i’r UE.

“Mae pob cynhyrchydd, o’r fferm i’r fforc, o’n cynnyrch Cymreig gwych yn gwneud cyfraniad hanfodol i economi Cymru.

“A wnaiff yr Ysgrifennydd Gwladol ymuno â mi i ddathlu holl gynhyrchwyr a ffermwyr Cymru, yn enwedig y rhai yn Sioe Nefyn ddydd Llun a hyd yn oed yn fwy felly’r rhai o Sir Gaerfyrddin sydd yma heddiw?"