Plaid Cymru yn addo cysylltiadau agosach ag Ewrop i wella safonau'r GIG
Byddai Plaid Cymru yn addo cysylltiadau agosach ag Ewrop i wella safonau'r gwasanaeth iechyd, meddai eu llefarydd ar iechyd Mabon ap Gwynfor AS.
Mewn araith i Fforwm yr Alban 2025 heddiw (Dydd Mawrth 2 Medi) - cynhadledd sydd yn 'hyrwyddo cydweithrediad a dealltwriaeth ryngwladol' - bydd Mr ap Gwynfor yn amlinellu chwe pholisi a fyddai'n gwella safonau'r GIG yng Nghymru drwy gydweithrediad Ewropeaidd:
-
Cytundeb Diogelu Iechyd pwrpasol gyda'r UE
- Torri biwrocratiaeth ar fasnach gofal iechyd
- Creu fforymau ar gyfer cydweithredu ar barodrwydd pandemig a thechnolegau arloesol, fel AI
-
Ailgynllunio rhaglen Agile Cymru i hybu cydweithrediad trawsffiniol a rhyngwladol
- Trwy roi ffocws newydd ar economeg iechyd i’r cynllun, gallwn ddysgu o fodelau sy'n enghreifftiau da o effeithlonrwydd a rhagoriaeth.
-
Alinio â Rhaglen EU4Health
- Alinio ein blaenoriaethau cenedlaethol ag un o fentrau mwyaf uchelgeisiol Ewrop i adeiladu systemau iechyd cryfach, mwy gwydn a mwy hygyrch.
-
Llofnodi i'r Cod Ymarfer Ewropeaidd ar ofal canser
- Ymrwymiad i roi'r gofynion craidd ar gyfer arferion canser clinigol da i gleifion Cymru, fel yr amlinellir yn y Cod Ymarfer Canser Ewropeaidd
-
Diwygio seilwaith digidol a data Cymru
- Dysgu o arferion gorau Ewrop - gan gynnwys arloesiadau fel yr Ap Gofal Clyfar - wrth gynnal diogelwch data cryf sydd wedi'i alinio â GDPR.
-
Ceisio am aelodaeth gyswllt o Gynghrair Meddyginiaethau Critigol yr UE
- Cryfhau'r cyflenwad o feddyginiaethau hanfodol a gwella ymdrechion i atal a mynd i'r afael â phrinderau yn effeithiol.
Dywedodd Mr ap Gwynfor y byddai'r polisïau a osodwyd yn cael eu datblygu yn dilyn Bil Alinio Ewropeaidd arfaethedig Plaid Cymru, a gyhoeddwyd gan AS Plaid Cymru, Adam Price, yn gynharach eleni.
Pwysleisiodd llefarydd iechyd Plaid Cymru bwysigrwydd cydweithredu gyda gwledydd Ewrop, er mwyn sicrhau bod Cymru'n gallu "rhannu gwybodaeth, osgoi camgymeriadau costus a darparu gwell gofal".
Parhaodd drwy esbonio'r heriau sy'n wynebu'r GIG yn dilyn Brexit, sydd wedi "codi rhwystrau i gyfnewid syniadau, adnoddau ac arbenigedd", sydd wedi arwain at "risg ddifrifol".
Bydd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor AS, yn dweud:
"Mae ein gwasanaeth iechyd o dan bwysau enfawr. Mae rhestrau aros yn hir. Mae staff yn cael eu gorweithio. Mae'r galw yn cynyddu bob blwyddyn. Ond nid problemau unigryw i Gymru yw'r rhain.
"Pam ddylai Cymru neu'r Alban ailddyfeisio'r olwyn pan mae Sweden wedi arloesi modelau newydd o ofal? Pam trafferthu ar eich pen eich hun gyda phroblemau ynglŷn â’r gweithlu, pan mae Denmarc wedi dod o hyd i ddulliau arloesol? Beth am ddysgu o lwyddiant Estonia gyda systemau iechyd digidol?
"Mae ymadawiad y DU o'r Undeb Ewropeaidd wedi gwneud y cydweithio hwn yn anoddach. Mae Brexit nid yn unig wedi creu rhwystrau i fasnach ac ymchwil - mae wedi codi rhwystrau i gyfnewid syniadau, adnoddau ac arbenigedd.
"Mewn gofal iechyd, nid anghyfleustra yw hyn- mae'n risg ddifrifol. Yn hytrach nag adeiladu pontydd, rydym wedi creu waliau. Yn hytrach nag alinio â'r safonau uchaf, rydym mewn perygl o syrthio ar ei hôl hi.
"Bydd Bil Alinio Ewropeaidd Plaid Cymru - bil a fydd yn sicrhau bod Cymru yn cadw i fyny â safonau Ewropeaidd mewn meysydd datganoledig, gan gynnwys gofal iechyd, yn ein hatal rhag syrthio ar ei hôl hi. Bydd yn rhoi sylfaen ddeddfwriaethol i ni ar gyfer cydweithredu agosach ac integreiddio dyfnach yn y dyfodol.
"Ni fyddai Llywodraeth Plaid Cymru yn ynysu Cymru ymhellach, byddem yn manteisio ar y cyfle sydd o'n blaenau i arwain, i arloesi, i adeiladu dyfodol lle mae gan ein pobl fynediad at y gofal iechyd gorau y gall Ewrop ei gynnig.
"Yn y pen draw - mae hyn yn ymwneud â phobl. Am y claf sydd angen triniaeth newydd. Am y plentyn sy'n aros am ofal arbenigol. Am yr oedrannus sy'n haeddu urddas a chefnogaeth, nid oedi a siom."