Y Senedd yn ymuno â brwydr Plaid Cymru i fynnu tegwch i Gymru
Cynnig Llywodraeth Plaid Cymru yn galw am gyllid tecach i Gymru yn derbyn cefnogaeth drawsbleidiol
Heddiw (dydd Mawrth, 6ed o Hydref, 2026), mae'r Senedd wedi cefnogi cynnig Llywodraeth Plaid Cymru yn galw am fwy o hyblygrwydd cyllidol, adolygiad o fformiwla Barnett, ac i ailddatgan yr ymrwymiad o £14 biliwn o gyllid rheilffyrdd gan Lywodraeth Lafur y DU.
Daw'r cynnig bum mis ar ôl buddugoliaeth etholiad Senedd Plaid Cymru lle gwnaethant ymrwymo i 'sefyll i fyny dros Gymru' a mynnu 'cyllid teg' i Gymru a'i chymunedau.
Cefnogwyd y bleidlais gan y mwyafrif o bleidiau yn y Senedd, gan ddangos bod cyllid teg gan San Steffan yn cael ei gefnogi ar draws y Siambr.
Ar ôl i'r Senedd bleidleisio o blaid cynnig Plaid Cymru, dywedodd AS Plaid Cymru, Sera Evans, ei fod yn 'foment arwyddocaol' sy'n dangos na fydd Cymru 'bellach yn derbyn y sefyllfa bresennol sydd ddim yn gweithio i Gymru'.
Pleidleisiodd Reform UK yn erbyn y cynnig, penderfyniad sy'n profi nad oes ganddynt 'fuddiannau pobl Cymru wrth galon' eu penderfyniadau, yn ôl AS Plaid Cymru.
Dywedodd AS Plaid Cymru, Sera Evans:
"Mae'r bleidlais heddiw yn foment arwyddocaol sy'n anfon neges glir i San Steffan – ni fydd Cymru bellach yn derbyn y sefyllfa bresennol sy’n gadael Cymru i lawr.
"Mae Cymru wedi cael ein tanariannu gan San Steffan ers rhy hir. Mae ein rheilffyrdd wedi bod yn brin ar fuddsoddiad ers degawdau, ac mae ein cymunedau yn dal i gael eu gadael i lawr pob diwrnod.
"Er bod Reform UK wedi dangos eu bod yn hapus i gael eu tanseilio a'u tanariannu - ni fyddwn yn gadael i'r sefyllfa bresennol barhau.
"Byddai newid y ffordd mae Cymru'n cael ei hariannu yn ein galluogi i fuddsoddi'n uniongyrchol yn ein cymunedau, darparu cyllid hanfodol i'n rhwydwaith trafnidiaeth i gysylltu cymunedau, a gwella bywydau pawb yng Nghymru.
"Ni ellir anwybyddu llais Cymru. Rhaid i Lywodraeth Lafur y DU wrando a datgloi cyllid a allai ryddhau potensial cymunedau hyd a lled ein cenedl."