Mae Plaid Cymru wedi mynnu cael cynllun cefnogi brys i helpu ffermwyr Cymru i oroesi effaith trychinebus pandemig covid-19, gan ddisgrifio ymateb Llywodraeth Cymru fel un arswydus o araf.

Dywedodd Gweinidog Materion Gwledig cysgodol Plaid Cymru, Llyr Gruffydd AC, y bu’n “glir o’r diwrnod cyntaf”  nad oedd y rhan fwyaf o fusnesau fferm yng Nghymru yn gymwys ar gyfer y cynlluniau cefnogi busnes cyffredinol a gyhoeddwyd y mis diwethaf, a’u bod wedi eu taro’n galed gan brisiau is, oedi mewn taliadau a gostyngiad mewn cynhyrchu.

Dywedodd Mr Gruffydd fod y diwydiant wedi ei adael “yn dioddef colledion ac yn mynd yn brin o amser” a bod methiant i gynnig “cynllun cefnogaeth unswydd” i ffermwyr mewn trafferthion yn “warthus”.

Dywedodd Ben Lake AS, Llefarydd Plaid Cymru ar Faterion Gwledig yn San Steffan, fod wythnosau wedi mynd heibio a bod amaethyddiaeth yn “dal i aros” am gefnogaeth gan Lywodraethau Cymru a San Steffan.

Mae Plaid Cymru wedi cefnogi galwadau i ail-gyfeirio peth o arian y Cynllun Datblygu Gwledig i roi cynnydd mewn taliadau fferm i helpu cynhyrchwyr mewn trafferthion, yn ogystal â galw am iawndal i ffermwyr am gynhyrchu llai o laeth dros dro mewn cyfnod o orgyflenwi.

Ychwanegodd Mr Gruffydd y dylai’r Llywodraeth hefyd ystyried cymryd y gorgyflenwad o laeth i’w “storio’n breifat” neu i’w “ddosbarthu’n gymdeithasol trwy fanciau bwyd”.

Ychwanegodd y Gweinidog Materion Gwledig cysgodol y dylai Hybu Cig Cymru hefyd gael yr adnoddau i “ehangu ei waith hybu’n sylweddol” a sicrhau fod cynnyrch cartref a gwerthiant cigoedd uwch eu gwerth yn cael blaenoriaeth ac yn cael eu hyrwyddo.

Rhybuddiodd y byddai’r sector yn wynebu “trychineb” oni fyddai’r llywodraethau’n gweithredu’n syth.

Dywedodd Gweinidog Materion Gwledig cysgodol y Blaid, Llyr Gruffydd AC:

“Bu’n amlwg o’r cychwyn cyntaf nad yw mwyafrif y busnesau fferm yng Nghymru yn gymwys ar gyfer y cynlluniau cefnogi busnes cyffredinol a gyhoeddwyd fis diwethaf. Bu’n amlwg hefyd fod ffermydd wedi dioddef yn enbyd oherwydd prisiau is, oedi mewn taliadau a gorchmynion i leihau cynhyrchedd, hyd yn oed i dywallt llaeth i lawr y draen. Mae’n gadael llawer o’r diwydiant - yn enwedig yn y sectorau cig eidion a chynnyrch llaeth -  ar eu colled ac yn brin o amser.

“Ni all yr un busnes oroesi’n hir os yw’n cynhyrchu ar golled ac yn mynd i ddyledion enfawr. Dyna pam fod y methiant i gynnig cynllun cefnogi unswydd i ffermwyr mewn trafferthion yn warthus. Yn sicr, nid yw ymateb y Llywodraeth hyd yma wedi adlewyrchu difrifoldeb y sefyllfa.”

Dywedodd Llefarydd Materion Gwledig y Blaid yn San Steffan, Ben Lake AS:

“Mae Gweinidog Materion Gwledig Cymru eisoes wedi cyhoeddi cynllun i gefnogi busnesau pysgota a ddioddefodd oherwydd yr argyfwng iechyd cyhoeddus, a da hynny. Mae gan fusnesau sy’n berchen cychod pysgota yn awr hawl i grant o £10,000, ac esboniodd y Gweinidog ei bod yn cynnig cefnogaeth ariannol uniongyrchol oherwydd bod llawer yn y sector yn wynebu colli eu bywoliaeth a chau eu busnesau am byth. Mae amaethyddiaeth yn wynebu’r un argyfwng yn union, ac felly mae’n haeddu cefnogaeth debyg.

“Aeth llawer wythnos heibio ers i’r materion hyn ddod i’r amlwg, ac eto, rydym yn dal i ddisgwyl i Lywodraethau Cymru a’r DG i gymryd camau pendant. Er ein bod wedi gweld peth symud, megis llacio’r deddfau cystadlu i broseswyr llaeth, dyw hyn ddim yn ddigon o bell ffordd.”

Ychwanegodd Llyr Gruffydd AC,

“Mae Plaid Cymru yn cefnogi galwadau i ail-gyfeirio peth o arian y Cynllun Datblygu Gwledig i ychwanegu at daliadau fferm fydd yn helpu ein cynhyrchwyr yn eu trafferthion. Mae arnom angen gweithredu hefyd i unioni’r anghydbwysedd cyflenwi/galw a achoswyd gan y coronafeirws. Er enghraifft, dylai ffermwyr allu cyrchu iawndal am orfod gostwng cynhyrchu llaeth dros dro yn y cyfnod hwn o or-gyflenwi.

"Dylai’r Llywodraeth hefyd weithio gyda chynhyrchwyr i chwilio am bob cyfle i gymryd mwy o laeth naill ai trwy gynyddu’r cynnyrch a allai wedyn fynd i’w storio’n breifat neu ei ddosbarthu’n gymdeithasol trwy fanciau bwyd.

“Rhaid i Hybu Cig Cymru gael yr adnoddau i ehangu llawer mwy ar eu gwaith hybu, ac y mae angen gwneud mwy trwy’r archfarchnadoedd i hyrwyddo cynnyrch cartref a gwerthu mwy o’r cigoedd hynny sydd uchaf eu gwerth.

“Mae amser yn brin. Bydd wythnosau nesaf y gwanwyn yn golygu mwy fyth o laeth na ellir ei werthu, a chyda llawer o ffermydd yn colli miloedd o bunnoedd yr wythnos, all y Llywodraeth ddim llusgo’i thraed bellach. Os ydym o ddifrif am ddiogelwch bwyd yn y tymor hir, yna rhaid rhoi blaenoriaeth i helpu ein cynhyrchwyr i oroesi’r argyfwng hwn. Fel y mae pethau, mae llawer o’r sector yn wynebu difodiant oni weithredir rhag blaen.”