Sylwadau ymfflamychol Eluned Morgan yng nghynhadledd Llafur ddim yr agwedd disgwylir o swyddfa'r Prif Weinidog ac yn arwydd o banig - Arweinydd Plaid Cymru
Mae sylwadau Prif Weinidog Cymru yn ei haraith “gwenwyn wahanol, yr un potel” yng nghynhadledd Llafur yn arwydd o lywodraeth mewn panig, meddai arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Yn ystod Cwestiynau'r Prif Weinidog heddiw (dydd Mawrth 30 Medi 2025), heriodd arweinydd Plaid Cymru y Prif Weinidog dros ei sylwadau dros y penwythnos a dywedodd fod Plaid Cymru fydoedd ar wahân i Reform a’u bwriad i greu rhaniadau yn ein cymunedau a'u dymuniad i dawelu llais Cymru.
Mae pôl piniwn diweddar YouGov wedi datgelu bod cefnogaeth Llafur yn etholiad y Senedd wedi gostwng i 14% - gyda 34% o'r pleidleiswyr a gefnogodd Lafur yn Etholiad Cyffredinol 2024 bellach yn dewis cefnogi gweledigaeth flaengar Plaid Cymru ar gyfer Cymru yn lle hynny.
Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, fod y Prif Weinidog Llafur wedi "camddeall naws y genedl yn sylfaenol" a'i bod wedi dod yn "arweinydd gwan o blaid wannach.”
Dywedodd Mr ap Iorwerth fod Llafur yn ceisio ‘dal i fyny' drwy gopïo galwadau Plaid Cymru am dreth cyfoeth er eu bod nhw wedi pleidleisio yn erbyn galwadau'r blaid wythnos ynghynt, canmol Prydau Ysgol Am Ddim wnaeth y Prif Weinidog ei hun pleidleisio yn erbyn sawl gwaith, ac efelychu galwadau Plaid Cymru am gronfa gyfoeth sofran.
Wrth siarad yn ystod Cwestiynau'r Prif Weinidog am y tro cyntaf ers sylwadau Eluned Morgan dros y penwythnos, dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS:
“Does neb yn credu am eiliad fod Plaid Cymru a Reform yn cynnig yr un cynigiad. Mae hyn yn arwydd o Brif Weinidog a phlaid sydd yn pryderu.
“Mae’r iaith defnyddiwyd gan y Prif Weinidog i ddisgrifio’i gwrthwynebwyr gwleidyddol yn anaddas o’i swyddfa.
“Lle rydym ni’n hyrwyddo undod, mae Reform eisiau creu rhaniadau yn ein cymunedau.
“Lle rydyn ni'n eirioli dros Gymru i sefyll ar ei ddwy droed ei hun, maen nhw'n fflyrtio gyda'r syniad o reolaeth uniongyrchol gan San Steffan, gan dawelu llais Cymru.
"Lle rydyn ni'n addo amddiffyn ein diwylliant a'n hiaith, maen nhw'n dweud nad yw'n flaenoriaeth.
"Mae hi wedi camddarllen naws y genedl yn sylfaenol ac wedi dod yn arweinydd gwan o blaid wanach.
"Mae'r ysgrifen ar y wal i Lafur, ond yn hytrach na chymryd yr hyn y mae'n ei ddweud, mae'r Prif Weinidog wedi penderfynu paentio ei murlun ei hun o gamwirioneddau.
“Os yw Plaid Cymru mor wenwynig, pam mae'r Prif Weinidog mor hapus i gymryd ein holl syniadau?"