'Blwyddyn gyntaf Prif Weinidog Cymru wedi'i chrynhoi gan record o fethiant’
Mae Plaid Cymru heddiw (dydd Mercher 6 Awst 2025) wedi beirniadu 'record o fethiant' y Prif Weinidog wrth iddi nodi blwyddyn ers dod yn Brif Weinidog Cymru.
Er gwaethaf gwneud dod lawr â rhestrau aros y gwasanaeth iechyd yn flaenoriaeth ei llywodraeth a chyflwyno targed yn gynt i ddileu rhestrau aros triniaeth dwy flynedd erbyn Mawrth 2023, mae llwybrau atgyfeirio at driniaeth i gleifion a rhestrau aros dwy flynedd wedi cynyddu yn olynol yn y ddau fis diwethaf.
Disgwylir i dlodi plant hefyd gynyddu i 34.4% erbyn 2029 – y lefel uchaf yn y DU.
Dywedodd Heledd Fychan AS fod y Prif Weinidog nid yn unig wedi methu â gwella gwasanaethau cyhoeddus, ond wedi bod yn ystyfnig i syniadau newydd i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu Cymru ac wedi methu â sefyll i fyny i lywodraeth Lafur y DU dros bolisïau sy'n effeithio'n anghymesur ar Gymru.
Dywedodd Ms Fychan fod heddiw yn ei gwneud hi'n glir mai "dim ond Plaid Cymru all gyflawni'r arweinyddiaeth newydd sydd ei angen ar Gymru."
Dywedodd Aelod Plaid Cymru o'r Senedd, Heledd Fychan AS:
"Mae blwyddyn gyntaf Eluned Morgan fel Prif Weinidog Cymru wedi'i chrynhoi gan record o fethiant: o fethu ei tharged ei hun i ddileu rhestrau aros y gwasanaeth iechyd dros ddwy flynedd, i ganlyniadau addysgol yn gwaethygu a lefelau cynyddol o dlodi yn ein cymunedau. Nid dyma sut y dylai pethau fod.
"Ac eto, mae'r Prif Weinidog wedi bod yn ystyfnig i syniadau newydd – fel galwadau Plaid Cymru i gyflwyno taliad plentyn sydd wedi bod yn allweddol wrth fynd i'r afael â lefelau tlodi plant yn yr Alban. Mae'n amlwg bod y llywodraeth Lafur hon allan o syniadau ac allan o amser, a bydd Cymru ond yn gweld newid pan fydd Prif Weinidog Llafur allan o'r swyddfa hynny.
"Nid yn unig mae hi wedi methu â darparu gwell gwasanaethau cyhoeddus, ond mae hi wedi methu â sefyll fyny i Starmer bob tro: ar HS2, toriadau budd-daliadau anabledd, taliadau tanwydd y gaeaf, Ystâd y Goron – gallwn fynd ymlaen.
"Mae heddiw yn ei gwneud hi'n glir bod angen llywodraeth newydd ar Gymru gyda syniadau ffres ac uchelgais i roi Cymru yn gyntaf, bob amser. Dyna beth mae llywodraeth Plaid Cymru yn ei gynnig o dan arweinyddiaeth Rhun ap Iorwerth – i drwsio'r gwasanaeth iechyd, adfywio'r economi, rhoi'r dechrau gorau i'n plant, a mynnu tegwch gan San Steffan. Dim ond Plaid Cymru all gyflawni'r arweinyddiaeth newydd sydd ei angen ar Gymru."