Mae’r DU, Ffrainc a Chanada wedi condemnio gweithredoedd milwrol Llywodraeth Israel yn Gaza mewn datganiad ar y cyd 

Heddiw (Dydd Mawrth 20 Mai), gofynnodd Llefarydd Plaid Cymru ar Faterion Tramor, Ben Lake AS, am sicrwydd wrth yr Ysgrifennydd Tramor y byddai ‘camau pendant’ yn cael eu cymryd i “atal plant diniwed rhag profi newyn difrifol” fel yr addawyd yn natganiad ar y cyd gan y DU, Ffrainc a Chanada. 

Mae Llywodraeth Israel wedi rhwystro cymorth rhag cyrraedd Gaza am 11 wythnos, gan roi 2.1 miliwn o bobl yn yr ardal mewn perygl o newyn. 

Rhybuddiodd y Cenhedloedd Unedig hefyd y gallai 14,000 o blant yn Gaza farw o fewn 48 awr heb gymorth brys. 

Pwysleisiodd Mr Lake ddifrifoldeb yr argyfwng ac anogodd Lywodraeth y DU i gymryd y camau pendant angenrheidiol, ar y cyd gyda phartneriaid rhyngwladol, pe bai Llywodraeth Israel yn parhau â’i hymosodiad milwrol a’i blocâd cymorth. 

 

Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin, dywedodd Ben Lake AS: 

“Hoffwn ddiolch i’r Ysgrifennydd Tramor am y datganiad ac am ailadrodd ymrwymiad y Llywodraeth i gymryd camau pendant pellach ar y cyd â chynghreiriaid rhyngwladol pe bai Llywodraeth Israel yn parhau â'i hymosodiad milwrol ac yn gwrtho codi'r cyfyngiadau ar gymorth dyngarol. 

“O ystyried pa mor argyfyngus yw'r sefyllfa a'rr rhybuddion bod 14,000 o blant mewn perygl o wynebu newyn difrifol, a all yr Ysgrifennydd Tramor sicrhau’r Tŷ y bydd y “camau pendant” hynny’n cael eu cymryd i atal plant diniwed rhag profi newyn difrifol?” 

 

Yn ei ymateb, dywedodd yr Ysgrifennydd Tramor David Lammy: 

“Fel yr wyf eisoes wedi dweud, ac fel dangosodd ddatganiad y Prif Weinidog, byddwn yn cymryd camau pendant, camau pellach, os oes angen ond dwi wir yn gobeithio na fydd angen i ni gymryd y camau hynny gan mai'r gobaith yw y bydd y Prif Weinidog Netanyahu yn gwrando ar yr hyn y mae pobl ei wlad a'r gymuned ryngwladol yn ei ddweud.”  

 

Ychwanegodd yr Ben Lake AS: 

“Ar ôl y blocâd 11 wythnos o gymorth gan Lywodraeth Israel, mae’r argyfwng dyngarol yn Gaza bellach yn enbydus gyda’r Cenhedloedd Unedig yn rhybuddio y gallai 14,000 o fabanod farw o fewn 48 awr os na fydd cymorth brys yn eu cyrraedd. Ni all y byd gadw'n dawel a chaniatáu i filoedd o blant wynebu newyn difrifol. 

“Rydym yn croesawu’r datganiad ar y cyd gan y DU, Ffrainc a Chanada a oedd yn gwrthwynebu ymosodiadau milwrol newydd Israel a’r blocâd bwyd a chymorth. Fodd bynnag, rhaid i’r gymuned ryngwladol gymryd camau pendant nawr i sicrhau bod digon o gymorth yn cyrraedd sifiliaid yn Gaza ar unwaith, er mwyn sicrhau nad oes miloedd o fabanod yn wynebu newyn difrifol.”