Archwiliad Sgiliau Plaid i 'helpu cenedlaethau'r dyfodol' ar ôl canlyniadau TGAU
Ar ddiwrnod canlyniadau TGAU (21/08/2025), mae AS Plaid Cymru, Cefin Campbell, wedi amlinellu sut y bydd Archwiliad Sgiliau Cenedlaethol arfaethedig ei blaid yn cefnogi pobl sy'n gadael yr ysgol i ddilyn eu gyrfa ddymunol.
Bydd Archwiliad Sgiliau Cenedlaethol Plaid Cymru, a gyhoeddwyd fel rhan o strategaeth economi'r blaid - Gwneud i Gymru Weithio - yn sicrhau bod cyfleoedd addysg a hyfforddiant yn cael eu halinio ag anghenion cyflogwyr a diwydiannau yng Nghymru.
Mae llefarydd Plaid Cymru dros addysg, Cefin Campbell AS, wedi amlinellu sut y bydd cynlluniau ei blaid yn cefnogi pobl sy'n gadael yr ysgol, a'r rhai sy'n derbyn eu TGAU, i ddilyn y gyrfaoedd eu dymunir, drwy addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth.
Aeth yr AS Plaid Cymru ymlaen i feirniadu Llywodraeth Lafur Cymru am 'adael ein pobl ifanc i lawr' drwy ganiatáu i safonau ysgolion ostwng, ac economi Cymru i ddirywio.
Tynnodd Mr Campbell sylw at y ffaith mai gan Gymru’r ganran uchaf o bobl ifanc nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant i gymharu ag unrhyw un o ranbarthau a chenhedloedd y DU.
Parhaodd Mr Campbell drwy ddweud bod Plaid Cymru o ddifrif am roi'r dechrau gorau posibl mewn bywyd i bob person ifanc. Dywedodd y byddai Llywodraeth Plaid Cymru yn 2026 yn cymryd camau pendant i sicrhau gwell aliniad rhwng system sgiliau Cymru, anghenion dysgwyr, a chyfleoedd yn nyfodol economi Cymru.
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros addysg, Cefin Campbell AS:
"Heddiw, ar ddiwrnod canlyniadau TGAU, rydym yn dathlu llwyddiant ein pobl ifanc yng Nghymru, ac yn dymuno pob llwyddiant iddynt ar gyfer pa bynnag lwybr y maent yn ei ddewis nesaf - boed yn addysg bellach, prentisiaeth neu gamu i mewn i fyd gwaith.
Ond ar ôl 26 mlynedd o fethiannau Llafur o ran safonau addysgol a pherfformiad cyffredinol economi Cymru, nid yw dyfodol ein pobl ifanc mor ddisglair ag y gallai neu y dylai fod.
"Gyda Chymru yn gyson ar waelod tablau cynghrair economaidd ac addysgol, mae Llafur wedi gadael pobl ifanc Cymru i lawr.
"Mae gan Blaid Cymru gynllun cynhwysfawr i adeiladu sylfaen economaidd newydd i Gymru – cynllun a fydd yn gweld holl bobl ifanc Cymru yn meddu ar sgiliau sydd eu hangen arnynt i fynd ymlaen beth bynnag fo'u llwybr gyrfa ddewisol, tra hefyd yn sicrhau bod anghenion gweithlu busnesau a gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn cael eu cyrraedd.
"Yn 2026, mae gan bobl Cymru ddewis. Dirywiad parhaus mewn safonau addysgol a pherfformiad economaidd o dan Lafur, neu gynllun credadwy ar gyfer dyfodol mwy disglair gyda Llywodraeth Plaid Cymru – Llywodraeth sy'n benderfynol o sicrhau bod holl bobl ifanc Cymru yn cael y cyfle y maent yn ei haeddu i ffynnu."