Mae AS Plaid Cymru Hywel Williams wedi galw am i bawb nad ydynt yn Brydeinwyr sy’n gweithio ar y rheng flaen yn yr argyfwng Coronafeirws gael dinasyddiaeth os ydynt wedi gwneud cais amdano.

Yn dilyn galwadau gan weithwyr lleol y GIG, mae AS y Blaid wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref gyda’r cais.

Nododd Mr Williams fod Llywodraeth Prydain yn y gorffennol wedi rhoi dinasyddiaeth Brydeinig i’r Gurkhas am eu cyfraniad i amddiffyn y DG.

Cafodd rhyw 25 y cant o staff ysbytai’r DG eu geni dramor, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Genedlaethol (SYG).

Yn y llythyr, dywed Hywel Williams AS:

"Mae llawer o weithwyr allweddol yn wynebu anawsterau na welsant erioed o’r blaen, o ddiffyg cyfarpar gwarchod personol i’r ymchwydd enfawr yn nifer y cleifion. Ysywaeth, mae lledaeniad sydyn y feirws eisoes wedi cipio bywydau llawer o weithwyr gofal iechyd.

"Ar waethaf eu hymdrechion glew, mae llawer o weithwyr allweddol nad oes ganddynt ddinasyddiaeth Brydeinig, o feddygon i lanhawyr ysbytai, o gynorthwywyr mewn cartrefi nyrsio i barafeddygon, yn dal i fyw mewn ansicrwydd parhaus, heb wybod a gânt aros yn y DG yn barhaol. I rwbio halen i’r briw, maent hefyd yn wynebu ffioedd ymgeisio drudfawr.

"Mae’r pandemig hwn wedi dangos fod mewnfudwyr yn rhan hollbwysig o’n cymdeithas a’n heconomi. Mae’n hanfodol felly fod Llywodraeth y DG yn cydnabod maint aberth ac ymrwymiad y gweithwyr allweddol.

"Rhoddodd Llywodraeth DG hawliau dinasyddiaeth Brydeinig i’r Gurkhas am eu medr, eu dewrder a’u hurddas yn ystod rhai o’r amseroedd mwyaf anodd mewn hanes.

"Nid yw’r pandemig coronafeirws yn wahanol. Rwy’n gobeithio y byddwch yn ystyried y cais hwn yn ofalus, a rhoi dinasyddiaeth am ddim yn syth i bob gweithiwr allweddol a wnaeth gais, a thrwy hynny roi iddynt yr anrhydedd a’r gydnabyddiaeth a haeddant."