Yn ei neges i nodi Dydd Gŵyl Dewi, mae arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, wedi galw ar bobl Cymru i gymryd ysbrydoliaeth o gred Dewi Sant mewn 'gwneud y pethau bychain drwy bleidleisio dros Blaid Cymru yn etholiad y Senedd ym mis Mai.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth fod potensial Cymru yn aml yn cael ei ddal yn ôl gan San Steffan a bod Cymru'n aros i'r "Llywodraeth gywir gyda'r polisïau cywir" i'w ddatgloi.

Aeth ymlaen i ddweud y byddai pleidleisio dros Blaid Cymru yn helpu i adeiladu Cymru "decach, gwell, mwy ffyniannus".

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth:

"Wrth edrych yn ôl ar hanes Cymru, rwy'n falch o lawer o bethau rydyn ni fel cenedl wedi'u cyflawni. Mae ein hanes cyfoethog, o ddiwydiant, gwyddoniaeth ac arloesedd, i ddiwylliant, cân a chwaraeon, yn fy ysbrydoli i edrych i'r dyfodol, i ddychmygu beth sydd eto i ddod.

"Rydym yn genedl sy'n llawn potensial. Rwy'n ei weld o ddydd i ddydd yn ein cymunedau, mewn siopau a chaffis, mewn busnesau a chanolfannau diwylliannol, ar ein strydoedd mawr ac yn ein cefn gwlad.

"Mae'r potensial hwnnw - sydd wedi'i ddal yn ôl gan San Steffan am rhy hir - yn barod i gael ei ddatgloi gan y Llywodraeth gywir, gyda'r polisïau cywir, a'r agwedd benderfynol sydd ei angen i yrru newid ymlaen.

"Drwy gymryd ysbrydoliaeth gan Dewi Sant ei hun, rwy'n gofyn i bobl Cymru gymryd ysbrydoliaeth o’i gred yn y pŵer o 'wneud y pethau bychain, er mwyn helpu Cymru i gyflawni'r dyfodol ffyniannus rwy’n gwybod y gallwn ni ei gyrraedd.

"Mae'r pethau bychain yn aml yn gallu cael yr effaith fwyaf. Trwy farcio croes yn y blwch Plaid Cymru ar y 7fed o Fai, gallwch achosi daeargryn gwleidyddol yma yng Nghymru.

"Drwy wneud y pethau bach a bwrw eich pleidlais dros Blaid Cymru, gallwch ddechrau adeiladu dyfodol tecach, gwell, mwy ffyniannus i gymunedau hyd a lled Cymru.

"Ar Fai 7fed, gallwch ein helpu ni i atal y rhai a fyddai'n gweld Cymru'n mynd am yn ôl, a gallwch helpu i adeiladu dyfodol mwy disglair i'n cenedl."