System gyfiawnder tameidiog a 'haphazard' yn gadael pobl Cymru i lawr - Plaid Cymru
Mae datganoli cyfiawnder yn ateb 'synnwyr cyffredin' i gyflwr 'siomedig' y system gyfiawnder yng Nghymru.
Mae AS Plaid Cymru wedi beirniadu Llywodraeth Lafur y DU a Llywodraeth Lafur Cymru am adael pobl Cymru i lawr dros gyflwr siomedig y system gyfiawnder.
Daw sylwadau Adam Price AS cyn dadl yn y Senedd yn galw ar Lywodraeth y DU i ymrwymo i ddatganoli pwerau dros blismona a chyfiawnder yn llawn i Gymru.
Gwrthodwyd yr alwad hon gan yr Ysgrifennydd Cartref Llafur, Shabana Mahmood, pan ofynnwyd iddi gan AS Plaid Cymru, Liz Saville Roberts.
Mae gan Lywodraeth yr Alban a Llywodraeth Gogledd Iwerddon bwerau dros blismona, gan adael Cymru fel yr unig genedl ddatganoledig heb y pwerau hyn.
Mae'r galwadau am ddatganoli plismona a chyfiawnder wedi cael eu cefnogi gan amryw o gomisiynau ac adroddiadau, gan gynnwys Comisiwn Thomas a'r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, adroddiadau a gefnogir gan y blaid Lafur.
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros gyfiawnder, Adam Price AS:
"Mae'n synnwyr cyffredin i ddweud y dylai penderfyniadau ar sut mae cyfreithiau - a grëwyd yn aml yng Nghymru - yn cael eu gorfodi a'u plismona yma yng Nghymru.
"Mae penderfyniadau ar y gwasanaethau iechyd ac addysg sy'n cael eu darparu i'r rhai o fewn y system gyfiawnder yn cael eu gwneud yng Nghymru, ond mae Llafur yn credu y dylid gwneud penderfyniadau ar y system gyfiawnder ei hun yn Lloegr.
"Mae natur dameidiog, ‘haphazard’, y system dros gyfiawnder a phlismona yn gadael pobl Cymru i lawr ac yn arwain at Gymru i fod â'r gyfradd carcharu uchaf yng Ngorllewin Ewrop.
"Gallai datganoli'r pwerau hyn helpu i newid natur wrthgynhyrchiol y system cyfiawnder troseddol, sydd wedi gadael ystâd y carchar mewn cyflwr enbyd, tuag at system ataliol sy'n cefnogi unigolion i beidio aildroseddu.
"Ateb Llafur i gyflwr siomedig cyfiawnder yng Nghymru yw i wneud dim. Mae Llafur y DU yn gwrthod hyd yn oed edrych ar ddatganoli, a dyw Llafur yng Nghymru ddim yn fodlon gwneud unrhyw beth am y peth.
"Fydd Plaid Cymru byth yn ymddiheuro am wneud yr achos, a mynnu bod y gwasanaethau mae pobl Cymru yn dibynnu arnynt, yn cael eu darparu mor effeithiol â phosibl. Plaid Cymru yw'r unig blaid sy'n wirioneddol yn sefyll i fyny dros Gymru."