Mae arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth AS wedi rhybuddio y bydd nifer o aelwydydd yng Nghymru ddim yn gymwys am gefnogaeth ariannol, gan wynebu caledi o ganlyniad.

Mae disgwyl i Gymru derbyn £3.8m wedi’i dargedu i gefnogi’r aelwydydd fwyaf bregus yng nghymunedau gwledig sydd yn ddibynnol ar olew gwresogi, yn dilyn cynnydd mewn prisiau oherwydd gwrthdaro yn y Dwyrain Ganol.

Mae wyth y cant o aelwydydd yng Nghymru yn ddibynnol ar olew gwresogi, o’i gymharu â chyfartaledd o 3.6% ar draws Prydain.

Yn ystod Cwestiynau i’r Prif Weinidog heddiw (dydd Mawrth 17 Mawrth 2026), ceisiodd arweinydd Plaid Cymru gael eglurder ar bryd y disgwylir i’r arian fod ar gael yng nghyd-destun caledi pellach wrth i brisiau olew cynyddu.

Wrth siarad yn y Siambr, dywedodd Rhun ap Iorwerth AS:

“Mae rhyfel yr Arlywydd Trump yn erbyn Iran wedi ansefydlogi’r marchnadoedd ynni rhyngwladol ac mae hynny yn ei dro wedi taro dinasyddion Cymru yn eu pocedi.

“Wrth gwrs, rwy'n croesawu'r cyhoeddiad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig y bydd £3.8 miliwn ar gael i gefnogi aelwydydd yng Nghymru sy’n defnyddio olew gwresogi, ond dwi’n ofni y bydd diffyg manylion ynghylch y cyhoeddiad yn golygu bydd ansicrwydd a phryderon yn parhau.

“All y Prif Weinidog diweddaru’r Senedd ar ba bryd fydd yr arian yn cael eu rhannu yng Nghymru, ac ydy hi’n cytuno efo fi y bydd unrhyw oedi yn creu caledi go iawn i bobl wrth i brisiau barhau i godi yn ddyddiol? Tra wrth gwrs mae eisiau targedu yn gyntaf y rhai sydd angen help y mwyaf, bydd llawer o bobl ddim yn gymwys am arian drwy’r Gronfa Cymorth Ddewisol ac felly dal yn mynd i wynebu caledi go iawn – felly pa gamau bydd hi’n cymryd i wthio ar Lywodraeth y DU i gyfrannu rhagor o gymorth iddyn nhw?”