Plaid i ddefnyddio lluosydd cyfraddau busnes i ddylunio system sydd ar ochr busnesau bach a chanolig.

Heddiw (dydd Mawrth 03/02/2026), mae arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, wedi beirniadu'r gefnogaeth a gynigir i fusnesau lletygarwch Cymru gan Lywodraeth Lafur Cymru.

O fis Ebrill, bydd pob tafarn yn Lloegr yn cael 15% oddi ar eu bil ardrethi busnes newydd, a bydd biliau wedyn yn cael eu rhewi mewn termau real am ddwy flynedd arall.

Mae'r cymorth a gynigir gan Lywodraeth Lafur Cymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2026/27 yn unig, cyfnod o amser sydd ddim yn darparu'r un sicrwydd hirdymor i'r sector, yn ôl Plaid Cymru.

Galwodd Plaid Cymru ar Lywodraeth Lafur Cymru i fynd ymhellach drwy ddefnyddio'r lluosydd ardrethi busnes i gefnogi busnesau llai a dylunio system dreth sydd 'ar ochr busnesau bach a chanolig'.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS:

"Wrth groesawu'r cyhoeddiad heddiw - fel mae Plaid Cymru wedi galw am yn y dyddiau diwethaf, dim ond ateb tymor byr yw hwn. Ateb sydd yn rhoi ychydig iawn o sicrwydd tymor hir i sector sydd werth £4bn i economi Cymru - sector na all oroesi ar sail setliad un flwyddyn yn unig.

"Yng Nghymru, mae'n amlwg nad oes gan Lafur gynllun tymor hir - rhywbeth sy'n hanfodol ar gyfer hyfywedd y diwydiant lletygarwch.

"Mae'n amlwg bod y system ardrethi busnes yng Nghymru wedi torri yn sylfaenol a bod y sector lletygarwch yn wynebu argyfwng. Dyna pam y byddai llywodraeth Plaid Cymru, sydd o blaid busnes, yn blaenoriaethu'r diwygiad radical sydd ei angen.

"Byddai Llywodraeth Plaid Cymru yn defnyddio'r lluosydd ardrethi busnes i gefnogi busnesau llai drwy ddylunio system dreth sydd ar ochr busnesau bach a chanolig.

"Mae Plaid Cymru o ddifrif ynglŷn â rhoi'r dechrau newydd sydd ei angen ar economi Cymru gyda chynlluniau go iawn i gefnogi'r busnesau hynny sydd ei angen fwyaf."