Liz Saville Roberts yn rhybuddio bod cymunedau arfordirol mewn perygl o gael eu "hanghofio" heb weithredu yng Nghyllideb yr Hydref

Mae arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan wedi annog y Prif Weinidog i dorri TAW ar gyfer lletygarwch yng Nghyllideb yr Hydref, gan rybuddio bod y gyfradd bresennol o 20% yn dal busnesau yn ôl ac yn rhwystro twf economaidd mewn cymunedau gwledig ac arfordirol.

Wrth siarad yng Nghwestiynau’r Prif Weinidog heddiw (dydd Mercher 9 Medi), tynnodd AS Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts, sylw at brofiad Yr Heliwr, tafarn sy’n eiddo i’r gymuned yn Nefyn, sy’n ailfuddsoddi ei helw yn ôl yn y gymuned leol.

Ar hyn o bryd mae busnesau lletygarwch yn y DU yn talu 20% o TAW, o'i gymharu â 10% mewn gwledydd eraill gan gynnwys Ffrainc, Sbaen a'r Eidal.

Mae UKHospitality wedi galw am ostwng TAW ar gyfer lletygarwch i 10%, gan ddisgrifio cyfradd is fel y “peth pwysicaf” y gallai Llywodraeth y DU ei wneud i gefnogi’r sector.

Mae corff y diwydiant yn dweud bod gan y DU un o’r cyfraddau TAW lletygarwch uchaf yn Ewrop, gyda chyfradd gyfartalog o 12.8% ledled Ewrop o’i gymharu ag 20% yn y DU.

Canfu pôl YouGov a gomisiynwyd gan UKHospitality fod 79% o’r cyhoedd yn cefnogi cyfradd TAW is ar gyfer lletygarwch a thwristiaeth, o’i gymharu â 17% sy’n cefnogi cadw’r gyfradd bresennol o 20%.

 

Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin, dywedodd Liz Saville Roberts AS:

“Mae’r Heliwr yn Nefyn yn dafarn sy’n eiddo i’r gymuned ac mae’n byrlymu gyda digwyddiadau, ac wedi'i gyflenwi â chwrw a bwyd lleol. Rhaid i mi ddatgan buddiant - mae gen i gyfranddaliadau yn Yr Heliwr, ac mae'n gwneud fy ngŵr yn hapus dros ben.

“Mae cefnogi busnesau fel yr Heliwr yn allweddol ar gyfer twf economaidd mewn ardaloedd arfordirol - ond maen nhw’n cael eu dal yn ôl gan TAW o 20%, tra bod lletygarwch yn Ffrainc, Sbaen a’r Eidal yn talu dim ond 10%.

“A gaiff o air gyda’r Canghellor cyn Cyllideb yr Hydref a thorri TAW ar gyfer lletygarwch i brofi na fydd y codau post sydd bellaf o Lundain a Manceinion yn cael eu hanghofio yn ei weledigaeth am dwf?”

 

Yn ei ymateb, dywedodd y Prif Weinidog, Andy Burnham:

"Fel y mae'r Aelod Anrhydeddus yn gwybod, rwy'n hoff iawn o dafarndai fy hun. Yn fy wythnos gyntaf yn y swydd, penderfynais dorri trethi busnes ar gyfer tafarndai. Rwy'n credu bod angen i ni fynd ymhellach i gefnogi lletygarwch. Ni allaf ymrwymo i'r hyn y mae hi'n ei ddweud heddiw ond byddwn yn dweud wrthi i aros am y gyllideb. Rydym yn awyddus i gefnogi strydoedd mawr a lletygarwch ledled y wlad yn Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon ac yng Nghymru hefyd."

 

Dywedodd Swyddog Cymunedol yr Heliwr, Lois Povey:

"Mae rhedeg busnes ynddo'i hun yn anodd gyda chostau TAW yn uchel, ond fel tafarn gymunedol ble mae pob ceiniog yn mynd yn ôl i'r gymuned, mi fysa lleihad mewn TAW, sydd yn edrych yn 'chydig ar bapur, yn effeithio menterau fel ni yn sylweddol.

"Mae TAW yn barod yn uchel ac yn creu heriau mawr a rhoi pwysau ychwanegol arnon ni, gan fod llai o ein arian yn gallu mynd yn ôl i’r gymuned sydd yn mynd yn erbyn ein moeseg fel tafarn gymunedol.

"Mae llawer o heriau eraill hefyd yn ein herbyn fel codiad cyflog cenedlaethol, felly mae pob ceiniog yn bwysig. Tydi o ddim yn effeithio ar y busnes yn unig ond mae o yn effeithio ar y gymuned yn fawr yma yn Nefyn a'r ardal leol."