Mae Plaid Cymru wedi cyhuddo Llafur o 'adeiladu anghydraddoldeb’ trwy eu methiant i gefnogi teuluoedd drwy'r argyfwng tai sy'n wynebu Cymru.

Mae ystadegau'n dangos bod bron i draean o'r bobl sy'n byw mewn llety parhaol yng Nghymru yn blant, sy'n golygu fod Llafur yn ‘adeiladu anghydraddoldeb’ i mewn i genedlaethau’r dyfodol.

Mae Sian Gwenllian, llefarydd Plaid Cymru ar dai, wedi cyhuddo Llafur o 'waethygu'r sefyllfa' i bobl yng Nghymru sy'n chwilio am dai drwy wthio 'mwy a mwy' o bobl i dlodi.

Daw hyn ar ôl i Lywodraeth Lafur y DU benderfynu barhau i rewi Lwfansau Tai Lleol, tra bod prisiau rhent yng Nghymru yn codi ar gyfradd uwch na gweddill y DU.

Gorffennodd yr AS Plaid Cymru drwy ddatgan ymrwymiad Plaid Cymru tuag at greu system dai teg sy'n gweithio i bobl Cymru.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros dai, Sian Gwenllian AS:

"Mae Cymru'n wynebu argyfwng tai sy'n dyfnhau bob diwrnod, a dyw Llafur ddim yn gwybod sut i fynd i afael ag ef.

"Mae 170,000 o bobl ar restrau aros ar gyfer cartrefi cymdeithasol, mae 13,000 o bobl wedi gwneud cais am gymorth digartrefedd yn y flwyddyn ddiwethaf, ac mae 10,000 o bobl, gan gynnwys 3,000 o blant, mewn llety dros dro.

"Pan mae traean o bobl mewn llety dros dro yn blant, rydym yn llythrennol yn adeiladu anghydraddoldeb i mewn i genedlaethau'r dyfodol.

"Mae cyfraddau rhent yn codi'n gyflymach yng Nghymru nag unrhyw le arall yn y DU, ond mae Llywodraeth Lafur y DU wedi dewis parhau i rewi cymorth costau tai - sy'n golygu bod mwy a mwy o bobl yn cael eu gwthio i mewn i dlodi.

"Dyw Llafur nid yn unig yn methu cefnogi pobl yn yr argyfwng tai hwn, ond maen nhw hefyd yn gwaethygu'r sefyllfa i'r rhai sydd angen cymorth fwyaf.

"Mae Plaid Cymru o ddifrif am greu system dai teg sy'n gweithio i bobl Cymru, sy'n cefnogi unigolion a theuluoedd i fyw mewn tai cynnes, diogel a pharhaol."