HS2 a Rhydychen-Caergrawnt: mynnwn fargen deg i Gymru

Mae Cymru ar ei cholled o biliynau o bunnoedd. Rydyn ni’n galw am wella trenau a bysiau lleol, ond yn gorfod talu am brosiectau rheilffyrdd yn Lloegr. Rhaid i ni sefyll dros fargen deg i Gymru.

  • Mae Cymru yn cael ei gorfodi i dalu am brosiectau yn Lloegr, fel HS2 a lein Rhydychen i Gaergrawnt
  • Mae’r Alban a Gogledd Iwerddon yn cael iawndal—dyw Cymru ddim
  • Cafodd yr addewidion i osod trydan ar lein Abertawe ac yn y gogledd eu torri
  • Mae Llafur a’r Toriaid ill dau wedi methu â gweithredu

Rhoi terfyn ar daliadau gan Gymru i brosiectau Lloegr: llofnodwch y ddeiseb

“Rwy’n cytuno y dylai Cymru dderbyn iawndal llawn am linell Caergrawnt i Rydychen, HS2, a phrosiectau rheilffordd eraill sy’n berthnasol i Loegr yn unig.”

Mae 1,419 o bobl wedi llofnodi

Gadewch i ni gyrraedd 1,600