Bydd Ann Davies AS yn mynnu pwerau llawn dros reilffyrdd mewn cyfarfod gyda Llywodraeth y DU

Heddiw (dydd Mawrth 19 Mai 2026), mae llefarydd Plaid Cymru dros Drafnidiaeth, Ann Davies AS, wedi dweud fod HS2 wedi bod yn “llanast o’r cychwyn cyntaf”, wrth i Ysgrifennydd Llywodraeth y DU dros Drafnidiaeth, Heidi Alexander, rhoi diweddariad ar HS2.

Disgwylir i brosiect HS2 gael ei ohirio tan ganol y 2030au, gyda’r gyllideb godi i fwy na £100bn.

Mae HS2 wedi’i ddosbarthu fel prosiect ‘Lloegr a Chymru’, er nad oes un fodfedd o drac yng Nghymru. Mae Plaid Cymru wedi dweud fod £4 biliwn eisoes yn ddyledus i Gymru gan HS2, gan alw i ailddosbarthu’r prosiect fel ‘Lloegr yn unig’ i sicrhau’r arian sydd yn ddyledus i Gymru.

Mae Llefarydd Trafnidiaeth y blaid, Ann Davies AS, wedi dweud bod pobl Cymru yn gwrthod cael eu trin fel teithwyr ail ddosbarth mwyach.

Bydd Ms Davies yn cyfarfod ag Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn yr Adran Drafnidiaeth, Keir Mather, yn ddiweddarach y prynhawn yma i drafod ei gwelliant i'r Bil Rheilffyrdd. Mae’r gwelliant yn galw am ddatganoli rheilffyrdd yn llawn i Gymru, yn unol â'r Alban a Gogledd Iwerddon.

Dywedodd Ann Davies AS hefyd fod gan ei phlaid fandad newydd gan bobl Cymru i ddatganoli rheilffyrdd i Gymru yn dilyn etholiad y Senedd yn gynharach y mis hwn, lle etholwyd Llywodraeth Plaid Cymru, gyda’r galwad yn un o ofynion craidd y maniffesto.

Meddai llefarydd trafnidiaeth Plaid Cymru yn San Steffan, Ann Davies AS: 

“Mae HS2 wedi bod yn llanast o’r cychwyn cyntaf. Mae pobl yn iawn i fod yn flin am y diffyg arweinyddiaeth a diffyg cynllunio sydd wedi ein harwain i’r pwynt yma - o'r oedi dro ar ôl tro i gostau yn codi’n sydyn. Mae datganiad Llywodraeth y DU heddiw yn gyfaddefiad ei bod wedi methu â mynd i’r afael â’r methiannau a etifeddwyd gan y Llywodraeth Geidwadol flaenorol.

“Ond yng Nghymru, mae gennym reswm ychwanegol i fod yn flin. Mae HS2, llinell reilffordd sy’n cysylltu Llundain a Birmingham, yn parhau i gael ei glustnodi yn anghywir fel prosiect ‘Cymru a Lloegr’. Nid yw’r rheilffordd yn agos at Gymru ac ni fydd yn dod ag unrhyw fudd ystyrlon i’n cymunedau, ond disgwylir i bobl yng Nghymru helpu i dalu amdano o hyd.

“Mae tua £4 biliwn eisoes yn ddyledus i Gymru o ganlyniad i HS2 gael ei gam-ddosbarthu, ond os yw costau’r prosiect yn codi y tu hwnt i £100 biliwn fel y disgwylir, dim ond tyfu bydd maint yr anghyfiawnder hwnnw. Mae pob cynnydd yng ngwariant HS2 yn gwyro cyllid trafnidiaeth ymhellach i ffwrdd o Gymru, gan leihau’r gyfran a dderbyniwn ar draws cyllideb ehangach Adran Drafnidiaeth y DU - gan gynnwys tanariannu seilwaith rheilffyrdd Cymru mewn penderfyniadau gwariant yn y dyfodol.

“Mae pobl Cymru yn gwrthod cael eu trin fel teithwyr yn yr ail ddosbarth am eiliad yn rhagor. Dyna pam mae Plaid Cymru wedi galw’n gyson am ailddosbarthu HS2, fel bod Cymru’n derbyn y gyfran deg o gyllid sy’n ddyledus i ni o’r prosiect hwn sy'n elwa Lloegr yn unig. Rydym hefyd wedi dadlau ers tro y dylid datganoli pwerau dros seilwaith rheilffyrdd i Gymru, fel y gallwn fuddsoddi’n iawn yn ein rhwydwaith trafnidiaeth ein hunain a sicrhau bod cymunedau ledled ein gwlad yn elwa o drafnidiaeth gyhoeddus fodern a dibynadwy.

“Byddaf yn cyfarfod ag Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn yr Adran Drafnidiaeth, Keir Mather, y prynhawn yma lle byddaf yn pwyso am y cyllid a’r pwerau sy’n ddyledus i Gymru, oherwydd bod gan Blaid Cymru fandad newydd gan bobl Cymru i wneud hynny.”