Newidiadau mewnfudo yn ergyd ‘niweidiol’ i brifysgolion Cymru – Plaid Cymru
Llywodraeth y DU yn dangos ‘diffyg cydlyniant polisi’ ac yn 'gwrthod gwrando ar yr anawsterau ariannol y mae prifysgolion yn eu hwynebu’, meddai Ben Lake AS
Mae AS Plaid Cymru dros Geredigion Preseli, Ben Lake, wedi rhybuddio y gallai newidiadau arfaethedig Llywodraeth y DU i’r llwybr fisa graddedigion a’r ardoll o 6% ar incwm prifysgolion o ffioedd myfyrwyr rhyngwladol niweidio prifysgolion ledled Cymru a’r DU yn ddifrifol, gan alw’r cynlluniau’n “niweidiol” ac yn “ergyd i ragolygon economaidd Cymru a’r DU”.
Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin ddydd Llun, heriodd Mr Lake yr Ysgrifennydd Cartref, Yvette Cooper AS, ar oblygiadau ariannol y polisi, gan dynnu sylw at y ffaith bod y Pwyllgor Cynghori ar Ymfudo wedi rhybuddio yn y gorffennol y gallai cyfyngu ar lwybr fisa graddedigion roi prifysgolion mewn perygl ariannol o dan y model ariannu presennol.
Mewn ymateb, cadarnhaodd yr Ysgrifennydd Cartref y bydd graddedigion rhyngwladol yn dal i allu aros yn y DU am 18 mis ar ôl graddio, ond y byddai angen iddynt gael swyddi ar lefel graddedig er mwyn aros yn hirach o dan fisa gweithio penodol.
Fodd bynnag, dywedodd Mr Lake fod yr ymateb yn “dangos diffyg cysondeb” ym mholisi’r Llywodraeth ac yn methu â chydnabod y rôl hanfodol y mae myfyrwyr a staff rhyngwladol yn ei chwarae mewn addysg uwch.
Wrth siarad yn Nhy'r Cyffredin, dywedodd Ben Lake AS:
“Bydd yr Ysgrifennydd Cartref yn ymwybodol o’r argyfwng cyllido sy’n effeithio ar lawer o brifysgolion y DU. Y llynedd, pan adolygodd y Pwyllgor Ymgynghorol ar Ymfudo’r llwybr fisa graddedigion, daeth i’r casgliad y dylid ei gadw, gan ddatgan, ‘O dan y model cyllido addysg uwch presennol, gallai cau neu osod cyfyngiadau ychwanegol roi nifer o brifysgolion mewn perygl ariannol.’
“Beth yw asesiad yr Ysgrifennydd Cartref o’r effaith y bydd y newidiadau hyn yn ei chael ar gynaliadwyedd ariannol ein prifysgolion?”
Yn ei hymateb, dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref, Yvette Cooper AS:
“Lle mae prifysgolion eisoes yn bodloni safonau uchel o ran cydymffurfio, fel y mae’r rhan fwyaf ohonynt, mae hynny i’w groesawu, ond bydd angen i’r rhai nad ydynt yn eu bodloni ar hyn o bryd godi eu safonau cydymffurfio i sicrhau bod gennym system briodol a chadarn. Bydd y fisa graddedig yn galluogi pobl i aros am 18 mis heb gyfyngiad, ond os ydynt am aros yn hirach bydd angen iddynt gyfrannu at swyddi graddedig. Yn rhy aml mae pobl wedi aros heb wneud hynny, er bod ganddynt raddau a dylent felly fod yn cael swyddi graddedig, y gallant ei wneud hefyd trwy’r fisa penodol hwnnw.”
Ychwanegodd Ben Lake AS:
“Mae ymateb yr Ysgrifennydd Cartref yn dangos diffyg cydlyniant ym mholisi Llywodraeth y DU ar addysg uwch, a pha mor anymwybodol ydynt o destun pryder yr anawsterau ariannol y mae cynifer o brifysgolion yn eu hwynebu. Ni ddylid anwybyddu’r cyfraniad y mae myfyrwyr rhyngwladol – a staff – yn ei wneud i addysg uwch, ac i lawer o brifysgolion yng Nghymru, mae’r incwm a godir o’r ffioedd a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol yn helpu i gynnal darpariaeth cyrsiau i fyfyrwyr sy’n byw yn y DU.
“Mae angen i Lywodraeth y DU gofio bod prifysgolion yn hanfodol os ydynt o ddifrif o ran cyflawni eu haddewid o sicrhau twf economaidd, nid yn unig wrth yrru ymchwil ac arloesedd, ond hefyd i helpu i hyfforddi gweithlu sydd â’r sgiliau i wynebu heriau’r dyfodol. Mae’n drueni bod Llywodraeth y DU yn anwybyddu’r cyfraniad hwn, a’r ffaith bod am bob £1 a fuddsoddir mewn addysg uwch, bod £13 yn cael ei ddychwelyd i’r economi ehangach.
“Mae lleihau’r llwybr fisa graddedigion a gosod ardoll o 6% ar incwm prifysgol o ffioedd myfyrwyr rhyngwladol heb fynd i’r afael â’r model ariannu toredig yn gyntaf yn gam niweidiol. Bydd yn arwain at golli swyddi, cau cyrsiau, a byddai’n ergyd arall i ragolygon economaidd Cymru a’r DU. Mae'n bryd i Lywodraeth y DU ailystyried eu cynlluniau a'u strategaeth.”