Ofnau am ddiogelwch y cyhoedd wedi i Loegr lacio cyfyngiadau teithio

Mae Plaid Cymru wedi galw am gynnydd yn syth mewn dirwyon i atal pobl rhag gyrru i fannau poblogaidd gydag ymwelwyr yng Nghymru wedi i Brif Weinidog y DG Boris Johnson gyhoeddi llacio ar y cyfyngiadau i ganiatáu i bobl deithio er mwyn ymarfer.

Yn Lloegr, caiff pobl yn awr deithio i ymarfer, ond yng Nghymru mae yn erbyn y gyfraith gwneud unrhyw beth ond mynd ar deithiau angenrheidiol.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford yng nghynhadledd y wasg Llywodraeth Cymru heddiw na fyddai pobl sy’n teithio o Loegr yn cael eu "dirwyo’n syth" am ddod i Gymru.

Fodd bynnag, mae arweinwyr awdurdodau lleol sy’n cael eu harwain gan Blaid Cymru, Comisiynwyr Heddlu a Throsedd Plaid Cymru ac Aelod Senedd Plaid Cymru a’r Gweinidog cysgodol dros Lywodraeth Leol, Delyth Jewell oll wedi galw am gynyddu’r dirwyon i atal pobl rhag teithio i fannau yng Nghymru sy’n boblogaidd gyda thwristiaid tra bod y cloi i lawr yn parhau.

Dywedodd Comisiynwyr Heddlu a Throsedd Plaid Cymru   dros Ogledd Cymru a Dyfed-Powys, Arfon Jones a Dafydd Llywelyn, nad oedd y dirwyon presennol yn ddigon uchel, a bod pobl yn “dal i anwybyddu” y cyfyngiadau ac yn teithio “cannoedd o filltiroedd” ar deithiau diangen.

Yr oedd arweinwyr cynghorau dan arweiniad Plaid Cymru– Emlyn Dole (Sir Gâr) Ellen ap Gwynn (Ceredigion), Dyfrig Siencyn (Gwynedd) a Llinos Medi Huws (Ynys Môn) oll yn ategu’r alwad i godi swm y ddirwy.

Cododd Aelod Senedd Plaid Cymru, Delyth Jewell bryderon am y dryswch a achoswyd gan ddatganiadau gwrthgyferbyniol gan Brif Weinidog Cymru a Phrif Weinidog Prydain, a galwodd am i’r heddlu ac awdurdodau lleol gael mwy o bwerau i atal y sawl fyddai am fanteisio ar y dryswch.

Dywedodd Comisiynwyr Heddlu a Throsedd Plaid Cymru Arfon Jones (Gogledd Cymru) a Dafydd Llywelyn (Dyfed-Powys),

“Nid yw’r ddirwy bresennol yn ddigon uchel oherwydd fod pobl yn dal i anwybyddu’r canllawiau ac yn teithio gannoedd o filltiroedd ar deithiau diangen.

“Fel Comisiynwyr Heddlu a Throsedd , ni oedd rhai o’r rhai cyntaf i alw am gyfyngiadau ar deithio er mwyn diogelu ein cymunedau. Rydym yn awr yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu’r ddirwy fel ffordd lymach o atal y sawl sydd am deithio yn ddiangen yng Nghymru. Rydym yn galw am i ddirwyon gychwyn ar £1,000 gan godi i £3,200 am y sawl sy’n troseddu eto.”

Meddai Delyth Jewell, Aelod y Senedd dros ranbarth Dwyrain De Cymru,

“Mae’r diffyg eglurder gan y Prif Weinidog fod ei newidiadau yn gymwys i Loegr yn unig wedi gwneud dim ond cymylu pethau fwy fyth.

“Mae’r neges o Gymru’n glir: Arhoswch adref. Rhaid i ddiogelwch pobl Cymru ddod yn gyntaf, ac y mae angen i unrhyw un sy’n ystyried gyrru i Gymru i gyrchfan ymwelwyr boblogaidd ddeall y buasent yn eu peryglu eu hunain a phawb o’u cwmpas.

“I’r perwyl hwn ac i amddiffyn pobl rhag y feirws, rhaid i ni gefnogi ein heddluoedd trwy roi mwy o bwerau iddynt i beri i bobl ail-feddwl am dorri’r cyfyngiadau cloi.”