Tro-pedol Llafur ar dreth incwm yn dangos fod newid i dreth etifeddiaeth fferm yn bosib
Plaid Cymru yn ailadrodd galwadau i ddileu newidiadau all 'ddinistrio' ffermydd teuluol Cymru.
Ar ymweliad diweddar â fferm yng Ngwynedd, mae Plaid Cymru wedi tynnu sylw at newid cyfeiriad y Canghellor ar dreth incwm wrth ailadrodd eu galwadau am newidiadau tebyg ar dreth etifeddiaeth ffermydd.
Daw hyn ar ôl i adroddiad pwyllgor Materion Cymreig dynnu sylw at sut mae'r newidiadau i Ryddhad Eiddo Amaethyddol a Rhyddhad Eiddo Busnes wedi creu 'hinsawdd o ansicrwydd a dryswch' i ffermwyr Cymru.
Wrth siarad ar ôl yr ymweliad fferm a gynhaliwyd gan Aled Jones, Llywydd NFU Cymru, beirniadodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS, Llywodraeth Lafur y DU am anwybyddu anghenion cymunedau gwledig Cymru.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS:
"Am rhy hir, mae llywodraethau'r DU wedi anwybyddu anghenion Cymru wledig ac wedi tanseilio ein cymunedau amaethyddol. Mae'r Torïaid wedi torri ein cyllid ffermio ac wedi gwthio Brexit trychinebus ar Gymru, ond mae anwybodaeth pur Llafur tuag at Gymru wledig yn mynd â hi i lefel arall.
"Bydd cyflwyno newidiadau Llafur i dreth etifeddiaeth yn achosi argyfwng dirfodol yng nghefn gwlad Cymru. Bydd yn tanseilio hyfywedd a chynaliadwyedd cymaint o fusnesau ffermio yn y dyfodol, ac mae'n rhaid ei stopio.
"Os gall Llafur wneud tro-pedol ar dreth incwm yna dylen nhw wneud hynny ar dreth etifeddiant hefyd.”
Yn ymuno â Rhun ap Iorwerth ar yr ymweliad roedd Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros Faterion Gwledig, Llyr Gruffydd AS, ac AS lleol Arfon Siân Gwenllian.
Dywedodd Mr Gruffydd:
"Rydym yn ddiolchgar i Aled am y cyfle i drafod llawer o'r heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu'r sector ar adeg arbennig o anodd i'r diwydiant.
"O brisiau llaeth yn gostwng i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, roedd digon i'w drafod wrth i ni baratoi ar gyfer etholiadau'r Senedd ym mis Mai.
"Mae Plaid Cymru o ddifrif ynglŷn â chefnogi ffermwyr Cymru a ffermydd teuluol Cymreig, ond bydd ein holl ymdrechion yn cael eu tanseilio oni bai fod Llywodraeth Lafur y DU yn defnyddio'r Gyllideb i ddileu eu newidiadau hynod niweidiol i dreth etifeddiant, unwaith ac am byth."
Dywedodd AS lleol dros Arfon, Siân Gwenllian:
"Rwyf wedi bod yn siarad â ffermwyr yn Arfon dros y misoedd diwethaf ac mae nhw i gyd yn rhannu’r un neges ag yr ydym wedi'i chlywed gan Aled Jones - rhaid dileu'r newidiadau dinistriol i'r dreth etifeddiant.
"Mae Plaid Cymru wedi bod yn ddiamwys yn ein cefnogaeth i ffermwyr yma yn Arfon a ledled Cymru, o ymgyrchu dros welliannau mawr i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, i fynnu'r cyllid y mae busnesau ffermio yn ei haeddu gan San Steffan.
"Mae Llafur wedi gadael cymunedau gwledig Cymru i lawr. Dim ond Llywodraeth Plaid Cymru sy'n cynnig arweinyddiaeth newydd i holl gymunedau Cymru yn 2026."